Beth yw Gwir Farchnata?
Adnodd ymarferol ar gyfer gwerthiant a marchnata sydd wedi ei deilwra i’ch busnes chi er mwyn datblygu’r farchnad yn y DU.
Pwy yw Gwir Farchnata?
Cymdeithas o arbenigwyr ar farchnata bwyd a diod o’r DU ac Iwerddon, wedi eu dwyn ynghyd gan Menter a Busnes a Llywodraeth y Cynulliad er mwyn tyfu busnesau bwyd a diod Cymreig a chan gysylltu â rhaglen debyg ar gyfer cwmniau bwyd a diod Gwyddelig.
Pam Gwir Farchnata?
Mae twf nifer o gynhyrchwyr bychain bwyd a diod yn cael ei lesteirio oherwydd diffyg amser rheolwyr i ddatblygu’r busnes. Mae cwmniau’n sylweddoli beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ond maent yn cael eu rhwystro’n gyson gan gyfyngiadau rhedeg y busnes. Mae Gwir Farchnata yn dod â chwmniau da a phobl busnes effeithiol at ei gilydd sy’n gweithredu’n fentoriaid gyda’r bwriad o greu cwmniau gwell fyth.
Beth mae cefnogaeth Gwir Farchnata’n ei gostio?
Ariennir y prosiect yn rhannol gan raglen INTERREG IIIA yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae cwmniau sy’n cymryd rhan yn talu £2000 + TAW mewn rhandaliadau er mwyn cael mynediad i’r gwasanaeth.
Beth mae rhywun yn ei gael gan Gwir Farchnata?
Dewis o fentoriaid o blith ystod o unigolion cymeradwy iawn sydd wedi eu dethol yn ofalus o’r diwydiant bwyd a diod yn y DU. Mae gan bob cwmni sy’n cymryd rhan yr hawl i naw diwrnod o amser mentor dros gyfnod o 12 i 18 mis.
Beth all mentor Gwir Farchnata ei wneud i chi?
- Gweithio ar brosiectau penodol
- Darparu hyfforddiant un ar un wedi ei deilwra i chi ar ystod o weithgareddau gwerthu a marchnata:
- Creu strategaeth farchnata
- Proffilio cwsmeriaid targed
- Cynllunio system reoli cwsmeriaid
- Ymweld â chwsmeriaid allweddol
- Cynghori ar frandio a chyflwyno cynnyrch
- Cefnogi gweithgareddau arddangosfeydd a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Cynghori ar hyfforddiant Gwir Farchnata sydd ar gael i wella perfformiad eich tîm
Newyddion
-
28 Hydref 2011
-
27 Hydref 2011
-
15 Chwefror 2011
