Delivered bymenter a busnes
 Delivered by
menter a busnes

Partneriaid

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Mae cwmni NMR yn darparu gwasanaeth recordio llaeth yn y DU gan nodi perfformiad unigol buwch odro wrth astudio safon y llaeth, faint o laeth a gynhyrchir yn ogystal a ffrwythlondeb. Mae'r cwmni yn cael ei gydnabod o fewn y diwydiant fel arweinydd pan yn cyflenwi a chefnogi meddalwedd cyfrifiadurol ar gyfer y diwydiant llaeth yn ogystal a darparu gwybodaeth gyffredinol i dros 35 o gyrff o fewn y diwydiant llaeth gan gynnwys DairyCo a cymdeithasau bridiau. O fewn prosiect TAG fe fydd NMR yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg y bâs-data canolog yn ogystal a darparu gwasanaeth casglu data ar rhai o ffermydd TAG.

Mae cwmni Dunbia yn gwmni blaengar sy’n darparu cig coch o’r safon uchaf yn lleol ac yn genedlaethol i farchnadoedd adwerthu, masnach a gwasanaethau bwyd. Mae’r cwmni yn un o’r proseswyr ŵyn mwyaf yn y DU, ac mae ganddynt ffatri brosesu ŵyn wedi’i lleoli yn Llanybydder yng ngorllewin Cymru. Mae’r ffatri hon yn lladd a phrosesu 1 miliwn o ŵyn yn flynyddol ac yn cyflogi bron i 600 o bobl. Mae Dunbia (Llanybydder) yn un o ddeg o safleoedd Dunbia trwy‘r DU a Iwerddon ac mae’r grŵp yn cyflogi dros 3000 o bobl. Dros y blynyddoedd mae Dunbia (Llanybydder) wedi datblygu perthynas gryf gyda’u cyflenwyr ŵyn o safbwynt cynhyrchu a phrosesu. Caiff darllenydd EID ei osod yn Dunbia (Llanybydder) fydd yn galluogi ffermwyr i dderbyn adborth unigol o’r ŵyn a ddanfonir i’w lladd.

Mae cwmni J Sainsbury plc yn rhedeg 502 o archfarchnadoedd a 209 o siopau nwyddau cyfleus yn ogystal a Sainsbury's Bank. Mae Sainsbury's yn cydweithio'n agos gyda'i cyflenwi'r amaethyddol cynradd gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi cymunedau amaethyddol. Mae'r cwmni yn tarddu nifer sylweddol o ŵyn o Gymru gan anelu i wneud hyn gyda gonestrwydd a chyfanrwydd er mwyn ei cwsmeriaid.