Mae TAG yn un o brosiectau ‘Cynllun Effeithiolrwydd y Gadwyn Cyflenwi’ sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Amcan y prosiect yw i gyd weithio gyda 80 o ffermwyr defaid gan gyflwyno technoleg newydd ar eu ffermydd, gan werthuso cost ac effeithiolrwydd y dechnoleg ar fusnes y fferm. Fe fydd y prosiect yn datblygu'r defnydd o gadw cofnod yn electroneg trwy'r gadwyn gyflenwi, ynghyd â datblygu'r cysylltiadau rhwng y diwydiant a pholisiau perthnasol y llywodraeth.
Fe anelir i gyrraedd yr amcanion yma drwy annog y defnydd o raglen gyfrifiadurol fyddai’n nodi perfformiad ac effeithiolrwydd y ddiadell (yn unol gyda’r defnydd o EID). Fe fydd y prosiect yn cydweithio gyda 80 o ffermwyr defaid. Fe fydd y prosiect yn rhedeg tan fis Mawrth 2013.
Fe fydd tri lefel gwahanol o ffermwyr ar y cynllun a hyn yn dibynnu ar y diddordeb a gallu cyfrifiadurol. Er y tri lefel yma fe fydd amcan y prosiect yr un fath sef gwelliant ymarferol ag ariannol y ddiadell. Fe ddylai’r budd i’r tair lefel fod yn debyg gyda phwyslais ar adnabod manteision costau recordio perfformiad gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a chasglu’r wybodaeth briodol. Bydd unrhyw ddata a gesglir yn berchen i’r ffarmwr ac yn cael ei drin yn unol â deddfau diogelu data.
Fe fydd y lefel cyntaf o ffermwyr yn gyfarwydd iawn gyda’r defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth ac fe fydd y prosiect hwn yn galluogi’r unigolyn i wneud y mwyaf o’r hyn sydd ar gael drwy recordio perfformiad. Fe fydd y ffermwyr hyn yn derbyn cymorth wrth gasglu gwybodaeth, dadansoddi’r wybodaeth hwnnw ac i’w rhoi mewn modd ymarferol o ddydd i ddydd.
Fe fydd yr ail lefel o ffermwyr yn rhannol gyfarwydd gyda’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Fe ddaw cyngor o’r prosiect ynghyd â sut i roi'r wybodaeth angenrheidiol at ei gilydd a sut i ddehongli’r canlyniadau.
Fe fydd y trydydd lefel o ffermwyr yn derbyn cymorth gan gynrychiolydd o’r prosiect a fydd yn ymweld â’r ffarm pan fo angen er mwyn cynorthwyo i gasglu gwybodaeth.
Caiff y wybodaeth ei brosesu ar ran y ffermwyr trwy fâs-data canolog ac fe gaiff y canlyniadau eu hadrodd yn ôl fe bod modd gweithredu arnynt.Yn ogystal a hyn fe fydd canlyniadau'r prosiect yma ar gael i holl gynhyrchwyr defaid yng Nghymru gan arwain at fod o fudd i'r diwydiant defaid.
Fe fydd y prosiect â’r offer sydd ei angen ar gyfer y cynhyrchwyr sy’n rhan o’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn o fewn y gyllideb sydd ar gael.
Newyddion
-
18 Ionawr 2013
-
18 Ionawr 2013
-
18 Mehefin 2012
-
14 Mawrth 2012
-
19 Ionawr 2012
