22 Chwefror 2012
Cyflenwi un o gwmnïau gwerthu bwyd enwocaf y Deyrnas Unedig yw'r eisin ar y deisen i fecws The Village Bakery o Ogledd Cymru.
Ymwelodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd â becws newydd y cwmni yn Wrecsam i weld cynhyrchu yn y busnes sydd yn ddiweddar wedi ennill contract i gyflenwi sgons becws yn-y-stôr i gaffes Café Revive Marks & Spencer ym Mhrydain. Gwerthir y sgons yn y neuadd fwyd drwy'r becws yn-y-stôr yn ogystal ag yn y caffes.
Mae gan y busnes teuluol a sefydlwyd bron 80 mlynedd yn ôl dri safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys becws crefft o'r math diweddaraf un a agorwyd yn ddiweddar yn Wrecsam yn cynhyrchu sgons a nwyddau bore.
Mae'r cwmni, a gaiff ei redeg gan y teulu Jones - Alan a'i feibion Robin, Christien a Tim - yn cyflogi 230 o bobl ac yn cynhyrchu amrediad o gynnyrch parod wedi’u pobi, cynnyrch pob wedi'u rhewi a chynnyrch wedi'u rhewi heb eu pobi.