Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Newyddion - TAG

14 Mawrth 2012

Adroddiad Gwerthuso Prosiect TAG - SAC

Gweler isod adroddiad gwerthuso blynyddol ar gyfer prosiect TAG. Mae'r adroddiad yma wedi ei ysgrifennu gan Scottish Agricultural College (SAC) sydd yn gyfrifol am werthuso'r prosiect cyfan. Mae'r adroddiad yn Saesneg ond fe ellir trafod unrhyw ymholiadau yn Gymraeg. Os hoffech drafod ymhellach yna cysylltwch gyda Sion Ifans sion.ifans@menterabusnes.co.uk

19 Ionawr 2012

Cyflwyniad i Fwrdd Da Byw NFU Cymru

Ar yr 8fed o Ragfyr 2011 rhoddwyd cyflwyniad am brosiect TAG i Fwrdd Da Byw NFU Cymru mewn cyfarfod misol. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau sydd wedi eu hethol o wahanol siroedd yng Nghymru.   Prif bwrpas y cyflwyniad oedd cyfarwyddo aelodau o’r bwrdd gydag amcanion y prosiect aa rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.. Y prif ddatblygiadau o ddiddordeb i’r bwrdd oedd:   Effeithiolrwydd a chywirdeb darllenydd EID mewn lladd-dy ŵyn Dibynadwyedd tagiau EID Dibynadwyedd offer EID   Esboniodd Cyfarwyddwr y prosiect fod TAG yn cael ei ystyried fel prosiect peilot gyda strwythur dyrys sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid o fewn y diwydiant. Ychwanegodd bod y prosiect wedi ei sefydlu mewn cyfnod lle bu gwrthwynebu mawr i gyflwyniad EID fel rhan o reolau traws gydymffurfio.

21 Rhagfyr 2011

Cadeirydd Menter “Working Smarter” yn ymweld â phrosiect TAG.

Apwyntiwyd y cynghorydd annibynnol, Mr Gareth Williams, gan Lywodraeth Cymru i ystyried os yw’r fframwaith reoleiddio y mae ffermwyr Cymru’n ymwneud ag ef yn addas.  Bydd yn cyflwyno adroddiad o argymhellion i Weinidogion fis Rhagfyr. Mae’n ymweld ag amrywiol ffermydd a busnesau gwledig er mwyn gweld beth sy’n gweithio, beth sydd fwyaf o fwrn, a ble mae’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Fel rhan o’r ymarfer casglu gwybodaeth hwn, treuliodd ddiwrnod ar Dachwedd yr 16eg yn ymweld â fferm Tier 1 prosiect TAG a Dunbia, safle prosesu ŵyn Llanybydder. Prif fwriad yr ymweliad oedd: •           Rhoi cyfle i Mr Gareth Williams i wella’i ddealltwriaeth o gyfleoedd datblygu ar fferm i ffermwyr defaid Cymru o safbwynt system EID defaid. •           Arddangos bwriad prosiect TAG o gynyddu gwerth y wybodaeth a gofnodir er mwyn bodloni rheolau traws-gydymffurfio

21 Rhagfyr 2011

Ymweliad Swyddogion o Lywodraeth Kosovo

Ddydd Mawrth yr 11eg o Dachwedd bu tîm rheoli TAG yn gwesteio cynrychiolaeth o swyddogion llywdoraeth o Kosovo. Pwrpas yr ymweliad oedd trosglwyddo gwybodaeth yn y maes olrhain defaid, gan fod Kosovo bellach yn cofrestru da byw a daliadau da byw wedi sawl blwyddyn o aflonyddwch oherwydd gwrthdaro milwrol. Ymwelwyd â safle Dunbia yn Llanybydder, lle amlinellodd Paul Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Cymru, y diwydiant prosesu yn y DU, ac yna cafwyd taith o amgylch y ffatri, ble mae darllenydd rhes EID yn cael ei ddefnyddio yn yr adran dderbyn stoc. Cafwyd trafodaeth ddwys gyda Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd am ei dyletswyddau yng nghyd-destun olrhain anifeiliaid, a iechyd a lles anifeiliaid o fewn yr adran dderbyn. Mae’r diwydiant prosesu yn Kosovo wedi ei ddifrodi, dau safle’n unig sydd yn weithredol erbyn hyn, ac mae strategaeth ailadeiladu yn cael ei datganoli.

09 Medi 2011

Ymweliad y Dirprwy Weinidog Amaeth

Ar y 30ain o Fehefin, treuliodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies ddiwrnod yn dod i ddeall  pa mor ymarferol yw defnyddio EID ar ffermydd ac mewn lladd-dai yng Nghymru. Cafodd y gweinidog ei wahodd i brofi’r hyn sydd yn digwydd gan y tĂ®m sy’n darparu’r prosiect TAG, sy’n cael ei ariannu trwy Gynllun Effeithiolrwydd y Gadwyn Gyflenwi. Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad i uned brosesu ŵyn Dunbia yn Llanybydder i weld y darllenydd tagiau EID yn gweithio. Mae’r darllenydd hwn yn darllen 600 ŵyn/awr. Eglurodd Paul Edwards, Cyfarwyddwr Rheoli Dunbia Cymru fod ffermwyr sy’n cyflenwi’r cwmni yn dod yn fwyfwy ymwybodol o botensial derbyn gwybodaeth unigol yn Ă´l o’r lladd-dĹ· yn electronig. Yn dilyn hyn cafwyd taith o gwmpas yr uned gan roi cyfle i’r gweinidog ddod i ddeall yr holl broses yn well.

03 Awst 2011

Hyfforddiant grŵp Farm Wizard

Fe gynhaliwyd noson o hyfforddiant ar y 15fed o Fehefin gyda rhai o ffermyr 'tier 1' prosiect TAG ar fferm Llandre, Pumsaint. Fel rhan o'r noson fe gafwyd arddangosiad o'r rhaglen meddalwedd Farm Wizard gyda chyfle i'r ffermwyr i ehangu ei gwybodaeth o'r rhaglen. Fe annogwyd y ffermwyr trwy drafod gyda aelod staff o Farm Wizard i argymell ffyrdd o wella'r rhaglen i ateb ei gofynion nhw. Mae'r argymhellion yma wedi cael ei cyfleu yn Ă´l i staff Farm Wizard sy'n edrych ar Ă´l datblygu'r rhaglen. Fe fydd hyfforddiant tebyg yn cael ei gynnal trwy gydol y prosiect.

27 Gorffennaf 2011

Digwyddiad TAG yng ngwmni Dr John Vipond

Yn ystod dydd Llun y Sioe Frenhinol eleni fe fynychodd nifer o ffermwyr prosiect TAG ddigwyddiad a drefnwyd gan Menter a Busnes mewn cydweithrediad gyda SAC (Scottish Agricultural College). Prif atyniad y digwyddiad oedd cyflwyniad gan yr arbenigwr defaid Dr John Vipond o SAC. Testun y cyflwyniad yma oedd 'EID-Teclyn i wella effeithiolrwydd o fewn eich diadell?'. Fe ddilynwyd y cyflwyniad yma gyda sesiwn o holi ac ateb. Fel rhan o'r broses o werthuso prosiect TAG fe gyflwynwyd cyfres o gwestiynau i'r ffermwyr oedd yn ymwneud a'i rhesymau a datblygiad o fewn y prosiect. Mae copi o gyflwyniad Dr John Vipond ar gael i ffermwyr y prosiect trwy gysylltu gyda'r Swyddog Datblygu Prosiect SiĂ´n Ifans.

24 Chwefror 2011

Ymweliad â chanolfan ddosbarthu Sainsbury's

Cafodd rhai o ffermwyr prosiect TAG gyfle i ymweld ag un o ganolfannau dosbarthu Sainsbury’s fel rhan o ddiwrnod a drefnwyd er mwyn codi ymwbyddiaeth y ffermwyr o'r hyn sydd yn digwydd yr ochr arall i'r gadwyn gyflenwi.  Cychwynodd y diwrnod yng Ngwesty’r Falcondale, Llambed lle cafwyd cyflwyniadau gan Alison Jones sy’n aelod o dĂ®m amaethyddol Dunbia, a Sue Henderson o Sainbury’s. Roedd y cyflwyniadau yn esbonio’r gwaith y mae Dunbia a Sainsbury’s yn ei wneud yn ogystal â’r hyn a wneir i adeiladu perthynas gref gyda’u cyflenwyr. Cafwyd esboniad o’r cyfleon a’r gwasanaethau sydd ar gael i’r ffermwyr sy’n cyflenwi Dunbia.  Ail ran y diwrnod oedd arddangosfeydd gan ddau o gigyddion Dunbia yng nghanolfan brosesu Dunbia Llanybydder, o’r hyn a ellir ei wneud gyda charcas oen. Fe dorrwyd nifer o wahanol ddarnau o gig oen gan ddangos y gwahanol fanylebau y mae Sainsbury’s yn dymuno eu cael ar gyfer eu cwsmeriaid.

10 Ionawr 2011

Diwrnod Agored yn y Marchnadoedd

Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr fe gynhaliwyd 2 ddiwrnod agored mewn cydweithrediad gyda marchnadoedd da byw Llanymddyfri (Clee, Thompkinson & Francis) a Rhuthun (Ruthin Farmers Auction) er mwyn arddangos yr hyn sydd yn digwydd o fewn prosiect TAG. Mae'r ddau farchnad yma yn bartneriaid yn y prosiect ac fe gynhaliwyd y diwrnodau agored i gyd fynd gyda'r sioe ac arwerthiant Nadolig. Roedd cynrychiolwyr o'r prosiect yn bresennol i esbonio ei rĂ´l o fewn y prosiect gan arddangos yr hyn sydd yn digwydd er mwyn gweithredu'r broses o recordio perfformiad diadell. Cafwyd arddangosiad gweledol o'r bâs data canolog sy'n cael ei redeg gan NMR.   Roedd y diwrnodau yma yn gyfle i'r ffermwyr sy'n rhan o'r prosiect gael trafod y datblygiadau diweddaraf o fewn y prosiect. Yn ogystal â hyn fe fu'n gyfle i esbonio i ffermwyr o fewn y diwydiant yr hyn sydd yn digwydd o fewn prosiect TAG.