Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Astudiaethau Achos - TAG

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Recordio perfformiad ar fferm Coleg Powys

Mae fferm weithio Coleg Powys, Fronlas wedi dechrau defnyddio technoleg EID ar gyfer recordio perfformiad a fydd yn cyd-fynd â deddfwriaeth tagio ar gyfer ei diadell o ddefaid. Mae’r coleg yn cynhyrchu tua 1000 o ŵyn bob blwyddyn a werthir trwy Dunbia (Llanybydder). Yno fe gesglir gwybodaeth unigol yr ŵyn, ac fe anfonir y wybodaeth yma yn ôl i’r fferm ac i fewn i raglen reoli meddalwedd fferm Farm Wizard. Mae’r feddalwedd yma yn darparu ffordd o sefydlu perfformiad y ddiadell yn ogystal â chynhyrchu gwybodaeth a ellir ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ymarferol sy’n ymwneud â’r ddiadell. Mae pob dafad yn cael ei thagio gydag EID gyda’r bwriad o gysylltu’r holl ŵyn i’w rhieni. Drwy sefydlu cysylltiad rhwng y rhieni a’r ŵyn gall y fferm fonitro perfformiad unigol yr anifeiliaid a gwella safon cyffredinol y ddiadell.