10 Mai 2012
Caiff perfformiad a chostau’r gaeaf ar gyfer da byw a gedwir i mewn eu llywio gan ansawdd y silwair sy’n cael ei borthi.
Ansawdd glaswellt ar gyfer silweirio
Mae yna lawer o bethau y gallwn eu rheoli i wella ansawdd silwair: maetholion pridd, ansawdd gwndwn, dyddiadau cau a thorri, tail anifeiliaid, dulliau cynaeafu a silweirio, storio a phorthiant.
Mae ansawdd glaswellt pan gaiff ei dorri yn allweddol o ran cynhyrchu silwair o ansawdd uchel, wedi’i dwymo’n dda ac sy’n sefydlog. Mae’r ail fwletin Silwair - porthiant da yn dwyn ffrwyth hwn yn rhoi canlyniadau o fferm laeth tir isel, a fferm cig eidion a defaid organig sy’n tyfu gwndwn rhygwellt Eidalaidd meillion coch yn ei hail flwyddyn. Fel aiff y tymor yn ei flaen bydd samplau o ffermydd uchderau uwch a rhai â dyddiadau torri hwyrach yn cael eu cynnwys.