Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Astudiaethau Achos - Cyswllt Ffermio

Agrisgôp - Dyffryn Dyfi

Ffurfiodd wyth o ffermwyr defaid a gwartheg yn Nyffryn Dyfi grŵp Agrisgôp er mwyn ystyried y cyfleoedd a ddaw yn sgil rhoi statws Biosffer UNESCO i’r ardal. Trefnwyd ymweliad ag ardal y Rhone yn yr Almaen, sydd hefyd wedi ei ddynodi yn ardal Biosffer UNESCO ers 1991. Mae’r grŵp yn parhau i gwrdd yn rheolaidd ac yn bwriadu ymchwilio a datblygu’r cyfleoedd twristiaeth sydd ynghlwm â’r Biosffer; yn  benodol y cyfleoedd i rannu’r cyfoeth diwylliannol, hanesyddol a bwyd a gynhyrchwyd yn lleol yn Nyffryn Dyfi. Mae nhw hefyd yn ystyried yr amrywiaeth o fentrau ynni adnewyddol sy’n cynnwys biomas, ynni dŵr ac ynni gwynt yn ogystal â phrosiect ynni adnewyddol cymunedol ar sail y profiadau a gawsant yn y Rhone.  

Agrisgôp - Pont Senni

Sefydlwyd y grŵp Agrisgôp hwn gan griw o ffermwyr ifanc o ardal Pontsenni, er mwyn trafod y potensial oedd ganddynt i gymryd rhan yn y Cynllun Cymorth i Newydd Ddyfodiaid. Fe wnaethon nhw ddefnyddio y broses Agrisgôp i ddatblygu eu busnesau a systemau fferm unigol. Daeth y broses â aelodau y grŵp at ei gilydd a’u galluogi i rannu a datblygu syniadau busnes am gyfnod. Cafwyd cyfarfodydd a thrafodaethau gyda Asiantaeth yr Amgylchedd a’r arbenigwr tir glas, Charlie Morgan. Yn ogystal â hyn, astudiodd y grŵp y potensial o ddatblygu prosiectau ynni gwynt a hydro ar eu ffermydd.

Agrisgôp - Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Roedd y grŵp Agrisgôp hwn yn cynnwys porwyr sy’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i reoli eu tir glas er lles bywyd gwyllt. Fel rhan o ymchwil y grŵp i mewn i'r posibilrwydd o ymgorffori logo'r yr Ymddiriedolaeth ar gynnyrch a gynhyrchir o dir cadwraeth, cafwyd taith astudio i Wiltshire. Treuliodd y grŵp amser yn dysgu sut mae eu cymheiriaid yn y rhan honno o’r DU wedi llwyddo i frandio cig gyda logo yr Ymddiriedolaeth er mwyn ychwanegu gwerth ac i godi ymwybyddiaeth cwsmeriaid am werth pori cadwriaethol. Gydag arweiniad eu arweinydd Agrisgôp, paratowyd dogfen ddrafft yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer defnyddio'r brand Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru i farchnata cynhyrchion.

Ffermwr blaengar yn elwa o Cyswllt Ffermio

Mae Eurig Jenkins yn ffermwr llaeth ifanc uchelgeisiol, sy’n bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau i ehangu gyda help Cyswllt Ffermio. Eurig, 29, a’i dad Aeron sy’n ffermio 140 erw Fferm Pentrefelin yn Nhalsarn ger Llanbedr Pont Steffan, un o Ffermydd Arddangos y Rhaglen Datblygu Llaeth, ac yn y blynyddoedd diwethaf, bu’n rhentu 440 erw o dir ychwanegol yn yr ardal Ar hyn o bryd, mae’n cymryd teirawr i odro’r 270 o wartheg, ac am ei fod yn bwriadu cynyddu nifer y gwartheg godro i 380 dros y ddwy flynedd nesaf, roedd Eurig yn benderfynol o edrych ar ffyrdd o leihau’r amser godro. Fe’u cynghorwyd i gofrestru ar gyfer Cynllun y Fferm Gyfan gan Cyswllt Ffermio - sy’n cynnig cymorth un-i-un cymorthdaledig er mwyn helpu busnesau fferm i ddatblygu â€“ ac mae’r ddau’n falch iawn iddynt wneud hynny.

Cwpl ifanc ar y trywydd iawn, diolch i Gyswllt Ffermio

Hyd yn oed os mai cyfnod byr dreuliwch chi yng nghwmni’r ffermwyr godro ifanc, Elfyn Jones a'i wraig, Meinir, bydd eu hyder yn eu dyfodol mewn ffermio yn siŵr o greu argraff fawr arnoch. Maen nhw'n dweud mai'r rheswm dros yr hyder hwn yw'r cymorth proffesiynol y maen nhw wedi'i dderbyn drwy Gyswllt Ffermio ar ôl cofrestru yn wreiddiol ar gyfer Cynllun y Fferm Gyfan ac wedyn ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr. "Mae wedi rhoi persbectif newydd i ni a'n helpu i ailystyried y ffordd y mae'r fferm yn cael ei rhedeg. Mae'r newidiadau yr ydyn ni wedi'u trafod gyda'n hymgynghorwyr a chytuno i'w gwneud wedi ein hysgogi ac rydyn ni'n gwybod erbyn hyn yn union ble mae'r busnes yn mynd a'r targedau y mae'n rhaid i ni eu cyrraedd," meddai Elfyn, sy'n 38 oed.

Cyngor arbenigol yn rhoi gobaith i bâr ifanc o ffermwyr llaeth

DIM ond amser byr sy’n rhaid ei dreulio yng nghwmni’r ffermwyr llaeth ifanc, Elfyn Jones a’i wraig Meinir, cyn i’w hoptimistiaeth ynglyˆn Ã¢â€™u dyfodol yn y byd ffermio greu argraff arnoch. Yn ôl y pâr, y cymorth proffesiynol a gawsant drwy Cyswllt Ffermio, wedi iddynt gofrestru ar gyfer Cynllun y Fferm Gyfan yn gyntaf ac yna’r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr, sydd i ddiolch am y gobaith hwn. â€œMae wedi rhoi persbectif newydd i ni ac wedi ein helpu i ailedrych ar sut rydyn ni’n rhedeg y fferm. Mae’r newidiadau y buom yn eu trafod gyda’r cynghorwyr a chytuno i’w gwneud wedi bod yn ysgogiad mawr a  gwyddom i ble’n union mae’r busnes yn mynd a’r targedau sy’n rhaid eu cyrraedd,†meddai Elfyn, sy’n 38 oed.

Busnes wyau ar i fyny – diolch i Agrisgôp

MI chafodd wyth ffermwr o’r gororau a sefydlodd grwˆp i werthu wyau maes glas o’r radd flaenaf i siopau fel Harrods, gychwyn rhwydd iawn i’w menter newydd. Sefydlwyd Bluebell Egg Group, gyda chymorth rhaglen Agrisgop Cyswllt Ffermio. Ond cyn i’r busnes gael ei draed tano, cafodd y farchnad arbenigol hon ei tharo’n wael gan y wasgfa ariannol. Penderfynodd y grwˆp ddal ati er gwaethaf popeth, a throi at gynhyrchu wyau brown traddodiadol gan daro bargen i werthu eu hwyau i gwmni pacio wyau mawr. Dywedodd Wyn Owen, Rheolwr Datblygu Agrisgop, fod Mark Davies o’r Ystog, wedi cysylltu ag ef ddwy flynedd yn ol gyda’r syniad o gydweithio a nifer o ffermwyr eraill a oedd naill ai newydd ddechrau cynhyrchu wyau glas neu ar fin gwneud hynny.

Cyngor arbenigol Cynllun y Fferm Gyfan yn dwyn Ffrwyth

Ers mis Mehefin 2010, mae’r ffermwyr Andrew a Richard Jenkins wedi bod yn mwynhau ffrwyth y cyngor a gawsant drwy Gynllun y Fferm Gyfan ... ar ffurf mefus blasus, coch. Cofrestrodd y tad a’r mab o Fferm Pont, Betws Cedewain, ger y Drenewydd, ar gyfer gwasanaeth mentora Cyswllt Ffermio y llynedd ar ôl mynychu gweithdy CALU ar fefus ger Aberystwyth. Meddai Andrew, “Bu gennym fefus i’w casglu’ch hun ar ein fferm ers sawl blwyddyn, ond yn dilyn cyngor gan ein hymgynghorydd Cynllun y Fferm Gyfan, Chris Creed o ADAS, rydym bellach wedi prynu sawl ‘twnnel Sbaenaidd’. Mae i’r rhain ochrau agored i’n galluogi i gael cnwd llawer cynharach.â€

Fu yna well adeg erioed i gael cyngor proffesiynol

MAE Mike Done, ffermwr llaeth sydd ddim yn ofni mentro, wedi credu’n gryf erioed mewn gofyn am gyngor proffesiynol  i’w gynorthwyo i ddatblygu ei fusnes fferm. Dywedodd Mike, sydd â 165 o wartheg ar ei fferm 330 erw, Asney Park, yn Erbistog ger Wrecsam, “Un o’r prif fanteision o ddefnyddio ymgynghorydd yw bod gennych berson cwbl annibynnol yn ymweld â’ch fferm bob rhyw chwe mis. Mae’n gweithio gyda chi ar wella effeithlonrwydd eich busnes, yn eich helpu i bennu amcanion ac yn eu trafod yn fanwl gyda chi.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan y Rhaglen Dabtblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013. Mae hwn yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.