Cynhelir sesiynau wythnos cychwyn busnes ddwywaith y flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac maen nhw’n agored i fyfyrwyr, staff a graddedigion y Brifysgol, yn ogystal ag entrepreneuriaid lleol a gellir eu mynychu AM DDIM. Bwriedir yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd â syniad y bydden nhw’n hoffi ei ddatblygu mewn i fusnes.
Mae’r gweithdai sy’n cael eu cynnwys fel rhan o’r wythnos yn cynnwys: cynllunio busnes, ymchwil i’r farchnad, strategaeth farchnata, cynllunio ariannol a marchnata digidol yn ogystal â dwy sesiwn gan entrepreneuriaid lleol, un ar ddechrau’r wythnos i rannu eu stori ac ysbrydoli’r rhai sy’n mynychu, ac un arall ar ddiwedd yr wythnos i rannu eu profiadau ac ateb unrhyw gwestiwn am y broses o gychwyn busnes. Eleni, y ddau fodel rôl a gymrodd ran oedd Sarah Reast, Machinations a Barry Lloyd, Activ8Kids.
Dywedodd trefnwr yr wythnos, Tony Orme Rheolwr Mentergarwch, Prifysgol Aberystwyth: