19 Medi 2012
Mae Cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar eu ffordd i Lundain ar gyfer un o ddigwyddiadau blynyddol pwysicaf y diwydiant bwyd yn y DU, sef y Speciality & Fine Food Fair (2-4 Medi).
Bydd ystod eang o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn mynychu’r digwyddiad yn Olympia dan fantell brand Cymru y Gwir Flas Llywodraeth Cymru.
Bellach yn ei thrydedd blwyddyn ar ddeg, mae’r Speciality & Fine Food Fair yn denu mân-werthwyr a phobl o’r diwydiant lletygarwch sy’n chwilio am gynnyrch lleol a rhanbarthol o safon uchel gyda tharddiad penodol, gan gynnwys delicatessens, siopau fferm, mân-werthwyr annibynnol, caffis, bwytai a chyfanwerthwyr.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd:
“Mae’r Speciality & Fine Food Fair yn ddigwyddiad pwysig ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ac rwy’n falch iawn bod cymaint o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn.”