Rhaglen Mentora Bwyd a Diod
Mae Marchnata Bwyd Cyfan yn darparu y Rhaglen Mentora Bwyd a Diod ar ran Llywodraeth Cymru. Mae pob cwmni sy'n cymryd rhan yn derbyn pecyn wedi'i deilwra o gymorth mentora. Mae'r pecyn o gymorth wedi ei cynllunio gan y ddewislen isod:
- Sesiwn Diagnostic a Dadansoddol - 1 diwrnod rhad ac am didm
- Rhaglen Crëwr Busnes Cychwynnol - prosiect 5 diwrnod
- Rhaglen Adeiladwr Busnes - prosiect 8 diwrnod
- Rhaglen Academi Busnes - prosiect 12 diwrnod
Yn ogystal, gallwch chi a'ch tîm mynychu ystod o gyrsiau hyfforddi byr a gweithdai i ddatblygu sgiliau ym maes gwerthu a marchnata.
Pwy sy'n helpu darparu y rhaglen Mentora?
Cymdeithas o arbenigwyr ar farchnata bwyd a diod o’r DU, wedi eu dwyn ynghyd gan Menter a Busnes a Llywodraeth y Cynulliad er mwyn tyfu busnesau bwyd a diod Cymreig a chan gysylltu â rhaglen debyg ar gyfer cwmniau bwyd a diod Gwyddelig.
Pam ydych chi angen mentor?
Mae twf nifer o gynhyrchwyr bychain bwyd a diod yn cael ei lesteirio oherwydd diffyg amser rheolwyr i ddatblygu’r busnes. Mae cwmniau’n sylweddoli beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ond maent yn cael eu rhwystro’n gyson gan gyfyngiadau rhedeg y busnes. "Mae'r Rhaglen Mentora Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yn dod â chwmniau da a phobl busnes effeithiol at ei gilydd sy’n gweithredu’n fentoriaid gyda’r bwriad o greu cwmniau gwell fyth."
Beth mae rhywun yn ei gael gan y Rhaglen Mentora?
Dewis o fentoriaid o blith ystod o unigolion cymeradwy iawn sydd wedi eu dethol yn ofalus o’r diwydiant bwyd a diod yn y DU. Mae gan bob cwmni sy’n cymryd rhan yr hawl i naw diwrnod o amser mentor dros gyfnod o 12 i 18 mis.
Beth all mentor wneud i chi?
- Gweithio ar brosiectau penodol
- Darparu hyfforddiant un ar un wedi ei deilwra i chi ar ystod o weithgareddau gwerthu a marchnata:
- Creu strategaeth farchnata
- Proffilio cwsmeriaid targed
- Cynllunio system reoli cwsmeriaid
- Ymweld â chwsmeriaid allweddol
- Cynghori ar frandio a chyflwyno cynnyrch
- Cefnogi gweithgareddau arddangosfeydd a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Cynghori ar hyfforddiant Gwir Farchnata sydd ar gael i wella perfformiad eich tîm

- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
23 Mai 2013
-
12 Rhagfyr 2012
-
06 Rhagfyr 2012
-
30 Hydref 2012
-
23 Hydref 2012
