Ar y 30ain o Fehefin, treuliodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies ddiwrnod yn dod i ddeall pa mor ymarferol yw defnyddio EID ar ffermydd ac mewn lladd-dai yng Nghymru. Cafodd y gweinidog ei wahodd i brofi’r hyn sydd yn digwydd gan y tîm sy’n darparu’r prosiect TAG, sy’n cael ei ariannu trwy Gynllun Effeithiolrwydd y Gadwyn Gyflenwi.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad i uned brosesu ŵyn Dunbia yn Llanybydder i weld y darllenydd tagiau EID yn gweithio. Mae’r darllenydd hwn yn darllen 600 ŵyn/awr. Eglurodd Paul Edwards, Cyfarwyddwr Rheoli Dunbia Cymru fod ffermwyr sy’n cyflenwi’r cwmni yn dod yn fwyfwy ymwybodol o botensial derbyn gwybodaeth unigol yn ôl o’r lladd-dŷ yn electronig. Yn dilyn hyn cafwyd taith o gwmpas yr uned gan roi cyfle i’r gweinidog ddod i ddeall yr holl broses yn well.
Yn dilyn yr ymweliad â Dunbia, ymwelwyd â ffarm oedd â system o gasglu gwybodaeth trwy EID fel rhan o’r system trin defaid. Trafodwyd pa mor ymarferol oedd EID, a sonwiyd am y pryderon ynghylch y nifer o ddefaid sy’n colli eu tagiau, yn ogystal â’r disgwyl i gofnodi 100% o symudiaidau yn electronig. Cafwyd hefyd gyfle i drafod y manteision o wella effeithiolrwydd trwy ddefnyddio’r dechnoleg.
Newyddion
-
14 Mawrth 2012
-
19 Ionawr 2012
-
21 Rhagfyr 2011
-
21 Rhagfyr 2011
-
09 Medi 2011
