Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Ymweliad Swyddogion o Lywodraeth Kosovo

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Ddydd Mawrth yr 11eg o Dachwedd bu tîm rheoli TAG yn gwesteio cynrychiolaeth o swyddogion llywdoraeth o Kosovo. Pwrpas yr ymweliad oedd trosglwyddo gwybodaeth yn y maes olrhain defaid, gan fod Kosovo bellach yn cofrestru da byw a daliadau da byw wedi sawl blwyddyn o aflonyddwch oherwydd gwrthdaro milwrol.

Ymwelwyd â safle Dunbia yn Llanybydder, lle amlinellodd Paul Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Cymru, y diwydiant prosesu yn y DU, ac yna cafwyd taith o amgylch y ffatri, ble mae darllenydd rhes EID yn cael ei ddefnyddio yn yr adran dderbyn stoc. Cafwyd trafodaeth ddwys gyda Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd am ei dyletswyddau yng nghyd-destun olrhain anifeiliaid, a iechyd a lles anifeiliaid o fewn yr adran dderbyn. Mae’r diwydiant prosesu yn Kosovo wedi ei ddifrodi, dau safle’n unig sydd yn weithredol erbyn hyn, ac mae strategaeth ailadeiladu yn cael ei datganoli.

Aethpwyd ymlaen wedyn i ymweld â fferm, lle bu Siôn Ifans yn arddangos bas data TAG, ac mewn cymhariaeth cafwyd gwybodaeth am y system newydd sy’n cael ei datblygu a’i defnyddio yn Kosovo er mwyn olrhain buches, gan un o’r prif swyddogion. Mae Llwydoraeth Kosovo yn gweld y system EID fel arf allweddol i arbed ffugio anghyfreithlon a newid tagiau gan smyglwyr a masnachwyr anghyfreithlon.

Cytunwyd parhau i gyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth yn y dyfodol.

Cyfranogwyr

Jeton Muhaxhiri – Dirprwy Arweinydd Prosiect ar gyfer Prosiect Adnabod a Chofrestru Da Byw, Kosovo

Sadik Heta – Pennaeth Uned Adnabod a Chofrsestru, Asiantaeth Millfeddygaeth a Bwyd Kosovo

Bafti Murati – Pennaeth Iechyd Anifeiliaid, Kosovo

Eroll Shehu – Pennaeth Archwilio Milfeddygol, Kosovo

Arsim Arifi – Pennaeth Archwilwyr Maes Milfeddygol, Kosovo

Xhemajl Dervishi – Cyfarwyddwr Labordy Milfeddygol Kosovo

Tony Wilsmore – Rheolwr Prosiect Kosovo

Huw Davies – TAG

Sion Ifans – TAG

Paul Edwards – Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Cymru