Ar yr 8fed o Ragfyr 2011 rhoddwyd cyflwyniad am brosiect TAG i Fwrdd Da Byw NFU Cymru mewn cyfarfod misol. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau sydd wedi eu hethol o wahanol siroedd yng Nghymru.
Prif bwrpas y cyflwyniad oedd cyfarwyddo aelodau o’r bwrdd gydag amcanion y prosiect aa rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.. Y prif ddatblygiadau o ddiddordeb i’r bwrdd oedd:
- Effeithiolrwydd a chywirdeb darllenydd EID mewn lladd-dy ŵyn
- Dibynadwyedd tagiau EID
- Dibynadwyedd offer EID
Esboniodd Cyfarwyddwr y prosiect fod TAG yn cael ei ystyried fel prosiect peilot gyda strwythur dyrys sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid o fewn y diwydiant. Ychwanegodd bod y prosiect wedi ei sefydlu mewn cyfnod lle bu gwrthwynebu mawr i gyflwyniad EID fel rhan o reolau traws gydymffurfio.
Yn ystod yr wythnosau cyn y cyfarfod cwblhawyd nifer o agweddau yn gysylltiedig â rhwydwaith cyfathrebu gwybodaeth y prosiect gan gynnwys:
- Datblygiad y bâs data
- Datblygiad meddalwedd ffarm
- Cysylltu meddalwedd darllen tagiau yn y lladd-dy gyda systemau meddalwedd eraill
Mae'r agweddau hyn wedi cymeryd amser i’w sefydlu yn enwedig o safbwynt i gywirdeb data. Ni fyddai hyn wedi bod bosib oni bai am ymrwymiad a chefnogaeth partneriaid allanol. Mae’r broses hon wedi arwain at gysylltiadau cryfach ar hyd y gadwyn gyflenwi.
Gwneir defnydd o brosiect TAG gan amrywiol gyrff, gan gynnwys Llywodraeth Cymru wrth ddelio gydag Ewrop ynglŷn ag EID yn ogystal â menter Grŵp 'Working Smarter’. Bydd gweddill cyfnod y prosiect yn cael ei dreulio yn datblygu defnydd y ffermwyr o’r system sydd mewn lle, yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth o fuddiannau a chanfyddiadau cofnodi perfformiad i weddill y diwydiant yng Nghymru.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
18 Ionawr 2013
-
18 Ionawr 2013
-
18 Mehefin 2012
-
14 Mawrth 2012
-
19 Ionawr 2012
