Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma
Cynhaliwyd dau gyfarfod rhanbarthol gyda ffermwyr prosiect TAG yn ystod mis Mai. Pwrpas y cyfarfodydd yma oedd i ddiweddaru'r ffermwyr am y datblygiadau diweddaraf o fewn y prosiect gan roi pwyslais ar y manteision posib o ddefnyddio gwybodaeth sydd ar y bâs data. Fe gynhaliwyd y cyfarfodydd yma yn Nolgellau a Llandeilo. Roedd strwythur y cyfarfodydd yn dilyn:
- arddangosiad o'r meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio ar ffermydd tier 1
- trafodaeth ynglyn ar broses o gasglu gwybodaeth gan NMR ar ffermydd tier 2 a 3
- cyflwyno bâs data TAG ar ei newydd wedd gan archwilio gwybodaeth fyddai a photensial o'i ddefnyddio o fewn y busnes
- cyfle i drafod gyda cynrhychiolwyr o Dunbia am ei rôl o fewn posiect TAG yn ogystal ar datblygiadau diweddaraf ar safle'r ffatri
Fe rhannwyd y ffermwyr i grwpiau o 6-7 gan rhoi cyfle iddynt fynd o amgylch 'stondinau' y partneriaid.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
18 Ionawr 2013
-
18 Ionawr 2013
-
18 Mehefin 2012
-
14 Mawrth 2012
-
19 Ionawr 2012
