Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Entrepreneur yn Galw ar yr Arbenigwyr er mwyn Bachu Gwerthiant Pysgod Uwch

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Mae twf yn y galw gan gwsmeriaid am bysgod ffres wedi’u dal yn lleol wedi annog entrepreneur arobryn i ehangu adran gwerthu pysgod ei siop EUROSPAR brysur yn Nolgellau.

 

Wedi prynu cownter pysgod ffres mwy o faint i’r siop, penderfynodd Pencampwr Cymru: Y Gwir Flas, Conrad Davies fuddsoddi mewn cynyddu sgiliau a gwybodaeth staff er mwyn gwella’r gwasanaeth a’r cyngor a roddir i gwsmeriaid.

 

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Datblygu Masnach, cynhaliodd yr arbenigwr Adam Whittle o Ysgol Bwyd Môr enwog Billingsgate yn Llundain a Gill Reacord, perchennog y gwerthwr pysgod arobryn Gill’s Plaice yn Nhywyn ac Aberdyfi, gwrs undydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.

 

Mynychodd naw aelod o staff, dau ddarlithydd o’r coleg a Mr Davies ei hun y cwrs.

 

Mae Gill’s Plaice yn cyflenwi pysgod ffres wedi’u dal yn lleol i siopau Mr Davies yn Nolgellau, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli. Nawr mae’r bartneriaeth yn cael ei datblygu ymhellach, gyda Mrs Reacord wedi rhoi ei chaniatâd i alw’r adran gwerthu pysgod a ehangwyd yn Gill’s Plaice yn EUROSPAR Dolgellau.

 

Mae Mr Davies yn gobeithio cynyddu’r gwerthiant ymhellach drwy gadw ystod ehangach o bysgod ffres, gwella’r cyngor a roddir i gwsmeriaid a lleihau gwastraff.

 

“Canolbwyntiodd y cwrs ar sgiliau arddangos, sut i nodi’r gwahanol rywogaethau a sut i goginio a defnyddio’r pysgod mewn amrywiaeth o brydau,” meddai. “Gyda’r wybodaeth ychwanegol, bydd staff yn gallu cynghori cwsmeriaid ar y gwahanol fathau o brydau sydd fwyaf addas i’r pysgod ac argymell cynhwysion cysylltiedig yr ydym yn eu gwerthu yn y siop.

 

“Mae gwerthiannau pysgod ffres wedi cynyddu’n sylweddol yn y siop yn Nolgellau diolch i safon y pysgod y mae Gill yn ei gyflenwi, sydd hefyd yn gwneud yn dda iawn yn ei dwy siop hithau. Rydym wrth ei bodd fod Gill wedi cytuno i ni ddefnyddio ei brand ar y cownter pysgod ffres newydd.”

 

Roedd gwerthiannau cynnyrch bwyd a diod Cymreig o safon uchel yn nhair siop Mr Davies gwerth £1.8 miliwn y llynedd. Mae’r siopau yn cadw cynnyrch gan 70 o gynhyrchwyr Cymreig, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli o fewn 50 milltir.

 

Er mwyn helpu i ehangu ei rwydwaith o gyflenwyr lleol,  mae Mr Davies yn derbyn cymorth gan brosiect Channel Clusters, sy’n rhan o fenter a gynlluniwyd i helpu busnesau bwyd a diod arbenigol Cymreig ddatblygu marchnad y DU a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Dirprwy Weinidog Bwyd Llywodraeth Cymru, Alun Davies:

“Dyma enghraifft dda o sut y gall busnesau lleol weithio gyda’i gilydd ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i hyrwyddo bwyd a gynhyrchwyd yn lleol a chryfhau’r gadwyn gyflenwi.

 

“Mae’r sector bwyd yn bwysig iawn i helpu hybu’r economi yng Nghymru, yn ogystal â chwarae rhan fawr yn ein hunaniaeth a diwylliant cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i ddarparu’r holl gefnogaeth y gallwn i helpu’r diwydiant hwn i dyfu.”

 

Y siopau yn Nolgellau a Blaenau Ffestiniog oedd y cyntaf yng Nghymru i ddwyn  y brand elite EUROSPAR bron i dair blynedd yn ôl. Enwyd siop Dolgellau yn Archfarchnad y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru: Y Gwir Flas yn 2010, a reolir gan Lywodraeth Cymru.

 

 

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Wedi’i enwi yn yr Adwerthwr Bwyd Lleol Gorau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio Radio 4 yn 2008, mae Mr Davies hefyd wedi ennill llawer o wobrau eraill, yn cynnwys ‘Adwerthwr y Flwyddyn’ Spar ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2005 a 2009 yn ogystal â gwobr Arwr Lleol Gwir Flas yn 2007 a 2010.

Mae ei deulu wedi bod yn gysylltiedig â brand Spar ers dros 50 mlynedd ac ef yw’r bumed genhedlaeth i fod yn rhan o’r fasnach adwerthu.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Conrad Davies ar Ffôn 01758 612993, Bethan Jones, rheolwr prosiect  Marchnata Bwyd Cyfan, ar 01691 830189 neu 07815 150376 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.