Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Cyfle i fusnesau Powys gyfarfod prynwyr o’r sector cyhoeddus

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Mae busnesau ym Mhowys yn cael y cyfle i drafod contractau sector cyhoeddus cyfredol ac sydd ar ddod gydag amrywiaeth o sefydliadau fel rhan o ddigwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ym Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd y mis nesaf.

Bydd digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ym Mhowys yn canolbwyntio’n bennaf ar gontractau peirianneg sifil, adeiladu a rheoli tirwedd, er bydd cyfleoedd eraill yn cael eu hamlygu hefyd.

Bydd yn rhoi cyfle i fusnesau lleol sy’n rhan o’r sectorau hyn weld pa gontractau sydd ar gael ar hyn o bryd, neu a fydd ar gael yn y dyfodol, ynghyd â’r cyfle i drafod gofynion gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ddydd Iau, 13 Medi, yn cynnwys cynrychiolwyr o Morgan Sindall, cwmni adeiladu blaenllaw sy’n chwilio am bartneriaid cadwyn gyflenwi i weithio ar brosiectau mawr, gan gynnwys Network Rail.  Maent yn chwilio yn benodol am gwmnïau sy’n gallu ymgymryd â gwaith draenio a gwaith peirianneg sifil bach.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau Powys gyfarfod a thrafod contractau cyfredol a rhai fydd yn bodoli yn y dyfodol gyda’r sector cyhoeddus a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud i gystadlu’n llwyddiannus am waith o’r fath,” meddai Guto Carrod, Pencampwr Datblygu Cyflenwyr gyda’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr ym Menter a Busnes.

“Mae canolbwynt penodol ar brosiectau sy’n amrywio o adeiladu priffyrdd i dorri gwair a byddai cofrestru i fynychu’r digwyddiad hwn yn gyfle gwerth chweil i unrhyw fusnes sy’n ymwneud ag adeiladu, peirianneg sifil neu reoli tirwedd.”

Mae sefydliadau eraill fydd yn mynychu yn cynnwys Cyngor Sir Powys sy’n chwilio am gontractwyr ar gyfer gwaith adeiladu priffyrdd ar raddfa fechan, carthffosiaeth a systemau carthffosiaeth (profion statudol), torri gwair, gwasanaethu offer gwresogi; llogi peiriannau, teclynnau ac offer, tracio cerbydau a thelematig a phrosiectau penodol eraill.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am gontractwyr i ddarparu gwasanaethau diogelwch, glanhau ac arlwyo, tra bo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am gwmnïau hyfforddi.  Mae sefydliadau eraill sy’n mynychu’r digwyddiad yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn rhan o Wasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu rheoli a’u cyflenwi ym Mhowys a Cheredigion gan Fenter a Busnes, cwmni datblygu busnes.

Maent yn darparu cyfleoedd i fusnesau allu deall prosesau tendro a chaffael y sector cyhoeddus.

Rhaid i gwmnïau gofrestru i fynychu’r digwyddiad ymlaen llaw.  Er mwyn cofrestru, anfonwch neges e-bost at networkingevents@ontracagency.co.uk neu ffoniwch 01686 620409 erbyn dydd Llun, 3 Medi fan bellaf.