Porthiant Da yn Dwyn Ffrwyth
Mae perfformiad a chostau anifeiliaid dan do dros y gaeaf yn cael eu gyrru gan ansawdd y silwair.
Mae yna lu o bethau y gallwn eu rheoli i wella ansawdd silwair: maetholion yn y pridd, ansawdd y gwndwn, dyddiadau cau a thorri, tail anifeiliaid, dulliau cynaeafu a silweirio, storio a’r dull o borthi. Ansawdd y glaswellt wrth ei dorri sy’n allweddol i gynhyrchu silwair o ansawdd uchel, sydd wedi eplesu yn dda ac yn sefydlog.
Mae’r pedwerydd bwletin ar ddeg Porthiant da yn Dwyn Ffrwyth yn rhoi canlyniadau ar gyfer sampl ail doriad o fferm laeth a defaid Tudur Jones, Ty’n Rhos, Betws y Coed.
CANLYNIADAU ‘PRAWF GLASWELLT AR GYFER SILWAIR’ GDC (9 Awst 2012)
|
Cnwd |
Gwndwn Tymor Hir
|
Targedau |
|
|
26/07/2012 |
9/8/2012 |
|
|
|
% Cynnwys Sych |
13.4 |
12.1 |
30% i’r clamp silwair 35-45% byrnau |
|
Gwerth D |
69 |
69 |
Cyfateb i’r math o stoc i’w borthi |
|
ME MJ/kg cynnwys sych |
11.1 |
10.9 |
Cyfateb i’r math o stoc |
|
% Protein Amrwd |
25.9 |
25.4 |
Cyfateb i’r math o stoc |
|
%N Nitrad |
0.17 |
0.03 |
<0.1 |
|
% Siwgr Toddadwy %20% DM |
2.0 |
1.4 |
>3% |
Mae lefel y nitrad yn isel yn sampl yr wythnos hon a’r protein craidd yn uchel gan ddangos bod unrhyw N oedd wedi ei ychwanegu wedi ei drosi yn brotein llysieuol. Mae’n debyg bod y meillion yn y gwndwn yn dod yn fwy grymus sydd yn digwydd yn aml ar yr amser yma o’r flwyddyn wrth i dyfiant glaswellt arafu ond i’r meillion barhau i dyfu. Byddai hyn yn cyfrannu at y lefel uchel o ran protein. Cadarnheir hyn ymhellach gan y lefel siwgr isel y gellid ei ddisgwyl mewn gwndwn llawn meillion ond mae’n cadw gwerth D da ac ychydig iawn mae’r gwerth ME wedi disgyn o’r dadansoddiad cynharach. Gall fod yn anodd cael eplesiad ar y lefel yma o gynnwys sych a’r lefelau siwgr yn isel ac efallai y byddai brechlyn yn helpu yn hyn o beth.
Allwch chi fforddio gwastraffu silwair?
A fyddech chi’n gadael i’r glaw ddiferu i’ch storfa ddwysfwyd? Mae’n debyg mai na yw’r ateb! Felly meddyliwch sut yr ydych yn storio eich byrnau silwair, wedi’r cwbl rydych wedi treulio amser a gwario arian yn tyfu glaswellt, yn ei dorri a’i felio felly peidiwch â gadael i ddifrod i’r deunydd lapio arwain at golledion mawr!
Pan fydd y deunydd lapio wedi ei ddifrodi, mae ocsigen yn mynd i’r byrnau ac yn rhoi cyfle i lwydni, burum a bacteria i ddifetha’r silwair. Mewn byrnau nodweddiadol mae mwy na hanner y silwair yn y byrnau o fewn 20cm i’r deunydd lapio. Dangosodd gwaith yn Teagasc, Iwerddon bod
- un twll, 1-3mm o led yn arwain at golli 8% o’r porthiant bwytadwy.
- 6 twll bach yn arwain at weld 26% o arwyneb y silwair wedi ei orchuddio â llwydni
- un twll mawr (24mm) wedi arwain at ddifetha traean o’r bwrn.
Storio Byrnau Mawr i Leihau Gwastraff
- Dewiswch safle cysgodol ymhell oddi wrth goed a dŵr
- Storiwch ar arwyneb caled llyfn na fydd yn difrodi’r deunydd lapio
- Ni ddylai silwair gwlyb, isel o ran cynnwys sych (<25% DM) gael ei stacio, storiwch ar un lefel i atal i’r elifiant gael ei orfodi allan o’r deunydd lapio ac i ocsigen ganfod ei ffordd i mewn
- Gellir stacio silwair gyda mwy o gynnwys sych (>35% DM) hyd at uchafswm o dair o fyrnau o uchder.
- Gorchuddiwch y stac gyda rhwyden neu orchudd addas arall i atal adar a llygod rhag eu difrodi.
- Gwarchodwch y stac trwy ffensio o’i amgylch os bydd angen
- Rheolwch bob pla, llygod mawr yn arbennig
- Cymrwch olwg ar y staciau yn gyson trwy’r gaeaf, rhowch glytiau ac ail selio yn ôl y gofyn
Rheoli Clamp Silwair i Leihau Gwastraff
- Ystyriwch ddefnyddio ffilm atal ocsigen debyg i ‘clingfilm’ gyda haenen uchaf ddu
Neu
- Dwy haen, gyda haen newydd yn gyntaf a haen y llynedd ar ei phen rhowch bwysau ar yr haen uchaf
- Cadwch wyneb y clamp yn daclus a defnyddio torrwr i leihau gwastraff ac arafu eplesiad eilaidd wrth borthi.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
09 Hydref 2012
-
14 Medi 2012
-
14 Medi 2012
-
12 Medi 2012
-
30 Awst 2012
