Silwair – Porthiant Da yn Dwyn Ffrwyth
Caiff perfformiad a chostau’r gaeaf ar gyfer da byw a gedwir i mewn eu llywio gan ansawdd y silwair sy’n cael ei borthi.
Mae yna lawer o bethau y gallwn eu rheoli i wella ansawdd silwair: maetholion pridd, ansawdd gwndwn, dyddiadau cau a thorri, tail anifeiliaid, dulliau cynaeafu a silweirio, storio a phorthiant.
Mae ansawdd gwair ar adeg ei dorri yn allweddol i gynhyrchu silwair o ansawdd uchel, wedi’i dwymo’n dda sy’n sefydlog.
Mae’r degfed bwletin Silwair - porthiant da yn dwyn ffrwyth hwn yn rhoi canlyniadau ar gyfer ail sampl a dorrwyd o fferm laeth Ifton Hill Paul Rymer, Cil-y-Coed, Sir Fynwy. Roedd Paul wedi bwriadu torri’r sampl o gwmpas 26ain Mehefin - fodd bynnag oherwydd y tywydd roedd yn rhaid gohirio tan 11eg Gorffennaf.
Ifton Hill
Canlyniadau 'Prawf Glaswellt ar gyfer silwair' GDC IBERS (26 Mehefin 2012)
|
Cnwd |
Gwndwn Tymor Byr 9 Gorffennaf 2012
|
Gwndwn Tymor Byr 26 Mehefin 2012 |
Newid ers 26 Mehefin |
Targedau |
|
Defnydd Sych % |
15.3 |
15.2 |
+0.1 |
30% ar gyfer clamp 35-45% bêls |
|
Gwerth D |
65 |
69 |
-4.0 |
Cymhathu i’r dosbarth o stoc i’w porthi |
|
Defnydd sych ME MJ/kg |
10.2 |
11.0 |
-0.8 |
|
|
Protein Crai % |
21.2 |
21.6 |
-0.4 |
|
|
Nitrad N% |
0.02 |
0.01 |
+0.01 |
<0.1 |
|
Siwgr Toddadwy %@20% DM |
2.0 |
2.9 |
-0.9 |
>3% |
|
Sylffwr |
Heb samplo |
Heb samplo |
Heb samplo |
0.25% o ddefnydd sych |
Roedd yr oedi o 14 diwrnod mewn torri wedi’i yrru gan y glaw a oedd bron yn barhaus ac mae wedi esgor ar gwymp anochel yn ansawdd y gwair: gyda threuliadedd (gwerth D) yn gostwng o 4 uned, egni o 0.8 MJ a phrotein o 0.4%. Arweiniodd y tywydd anarferol o oer at yr ansawdd yn syrthio’n fwy araf nac mewn blwyddyn “arferol” pan mae gwerth D yn syrthio o oddeutu 0.5 uned y dydd. Y newid mawr oedd y gwymp o 0.9% mewn siwgr toddadwy, canlyniad lefelau golau isel a gwair yn aeddfedu, gyda’r gyfrannedd coesau i ddail yn cynyddu a deunydd ffibrog newydd yn ffurfio yn y goes.
Bydd yr oedi mewn torri yn golygu y bydd gwerth bwyd isel gan y silwair felly ni fydd yn cael ei fwydo i stoc gynhyrchiol. Roedd Paul wedi cynllunio’n ofalus i allu agor y pwll o’r ddau ben er mwyn gallu targedu’r silwair toriad cyntaf o ansawdd uchel ar gyfer ei wartheg llaeth cynnyrch uchel a’r deunydd ansawdd isel at anifeiliaid llai cynhyrchiol.
Creodd Paul 250 o fêls mawr o silwair a’u gosod yn y caeau lle mae’n bwriadu plannu cêl i wartheg fydd allan yn y gaeaf. Mae hyn yn enghraifft ardderchog o flaengynllunio : mae gosod y bêls yn y caeau cyn y gaeaf yn helpu i leihau niwed i’r pridd a dŵr ffo a achosir gan beiriannau. Bydd y bêls hefyd yn darparu ffibr i helpu i gydbwyso’r egni (sydd ar ffurf siwgrau) a’r cynnwys ffibr strwythurol isel.
Effaith tywydd ar ansawdd silwair
Nid oes angen ein hatgoffa bod y tywydd wedi bod yn oriog iawn hyd yma eleni, gyda mis Mawrth yn y mis cynhesaf ers dros 50 mlynedd, Ebrill yn un o’r gwlypaf a gofnodwyd, gwres annisgwyl diwedd Mai ac yna glaw.
Mae silweiriau sy’n cael eu cynaeafu ddiwedd Mai yn debygol o fod o ansawdd ardderchog gyda materion sych uchel, twymo da a photensial ar gyfer defnydd. Mae silwair gafodd ei gynaeafu ers hynny yn debygol o fod wedi’i “gipio" ar un diwrnod di-law ac mae llawer o gnwd silwair Cymru heb ei gynaeafu eto felly mae’n debygol y bydd llawer o silweiriau gwair yn anodd i’w bwydo y gaeaf hwn naill ai oherwydd eu bod yn wlyb, wedi’u twymo’n wael, yn fwy aeddfed na’r arfer neu’n gyfuniad o’r tri.
Pan fydd silweiriau gwlyb a/neu o ansawdd isel yn cael eu bwydo, gall mater sych isel/cadw gwael arwain at lai o ddefnydd gan dda byw fydd yn cyfaddawdu perfformiad ac effeithlonrwydd anifeiliaid.
Pris Grawnfwydydd drwy’r Byd
Mae prisiau ŷd y byd yn codi, sy’n ganlyniad tywydd anarferol mewn llawer o wledydd a chynnydd yn y galw dros y byd am rawnfwydydd. Mae hyn yn gwthio pris yr holl rawnfwydydd a bwydydd amgen i fyny.
Defnyddiwch y diwrnod gwlyb nesaf i ddechrau cynllunio eich strategaeth fwydo dros y gaeaf!
Gydag ansawdd porthiant yn debygol o fod wedi’i effeithio gan y tywydd a’r cynnydd mewn pris bwyd da byw a ragwelir, nawr yw’r amser i ddechrau cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y gaeaf. Gellir lleiafu’r cynnydd mewn costau bwyd drwy ddewis bwydydd sy’n cynnig y gwerth gorau am arian a hefyd yn cynnal perfformiad.
Dadansoddi Silwair
Bydd dadansoddi silwair yn eich helpu i
- asesu gwerth bwyd a pherfformiad potensial anifeiliaid er mwyn gallu ffurfio dognau addas
- nodi pa mor dda mae wedi’i gadw ac os yw’n debygol y bydd unrhyw broblemau o safbwynt defnydd, sefydlogrwydd ac iechyd anifeiliaid
Gellir dadansoddi silwair 6 wythnos ar ôl silweirio - bydd dadansoddi yn eich helpu i wneud y penderfyniadau bwydo gorau y gaeaf hwn.
Bwydydd Gaeaf
Bydd y dewis o fwydydd gaeaf yn dibynnu ar:
- Pris
- Ansawdd maeth
- Storio, Trin a Bwydo
Pris
Gellir nodi bwydydd sy’n rhai da i’w prynu drwy wirio’r gwerth bwyd cymharol: mesur sy’n dangos a yw bwyd penodol yn werth am arian yn gymharol i fwydydd cyfeirio – barlys a soya. Dangosir gwerthoedd bwyd cymharol ar gyfer rhai bwydydd cyffredin isod ar sail mater sych yn defnyddio prisiau cyfredol ar gyfer barlys (£160/tunnell) a soya (£395/tunnell)
Gwerthoedd bwyd cymharol ar gyfer rhai bwydydd cyffredin
|
Enw’r bwyd |
Gwerth cymharol £ (tunnell pwysau ffres) |
|
Mwydion betys siwgr triaglog sych |
148 |
|
Triagl Câns |
100 |
|
Grawn Bragu |
58 |
|
Ŷd |
165 |
|
Bwyd Rêp |
304 |
|
Bwyd cyfansawdd egni canolig |
188 |
Ansawdd Maeth
Mae bwydydd yn rhai da i’w prynu dim ond os oes angen yr holl faetholion. Er enghraifft, gallai bwyd rêp ymddangos yn un da i’w brynu am £304/tunnell ond dim ond os gellir defnyddio ei 40% protein. Os nad oes angen y protein ar y da byw yna byddai betys siwgr triaglog sych ar £200/tunnell yn arbed arian er ei fod yn ddrutach na’i werth bwyd cymharol! Cofiwch gyfateb swm ac ansawdd y cyfansoddion a’r bwydydd pur i’r porthiant sydd ar gael a’r math o dda byw i’w bwydo.
Storio, Trin a Bwydo
Meddyliwch am sut y gallwch storio, trin a bwydo bwyd swmp a brynir i mewn. A all bwydydd a brynir i mewn “weddu i’ch system” heb arwain at gostau cyfalaf ychwanegol? Cofiwch fod storio a bwydo da yn helpu lleiafu gwastraff.
Mae cyngor am fwydo drwy’r gaeaf ar gael drwy Cyswllt Ffermio: cysylltwch â’ch hwylusydd Cyswllt Ffermio.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
09 Hydref 2012
-
14 Medi 2012
-
14 Medi 2012
-
12 Medi 2012
-
30 Awst 2012
