Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma
Silwair – Porthiant Da yn Dwyn Ffrwyth
Caiff perfformiad a chostau’r gaeaf ar gyfer da byw a gedwir i mewn eu llywio gan ansawdd y silwair sy’n cael ei borthi.
Ansawdd Gwair ar gyfer Silweirio
Mae yna lawer o bethau y gallwn eu rheoli i wella ansawdd silwair: maetholion pridd, ansawdd gwndwn, dyddiadau cau a thorri, tail anifeiliaid, dulliau cynaeafu a silweirio, storio a phorthiant.
Mae ansawdd gwair ar adeg ei dorri yn allweddol i gynhyrchu silwair o ansawdd uchel, wedi’i dwymo’n dda sy’n sefydlog.
Mae’r trydydd bwletin Silwair - porthiant da yn dwyn ffrwyth hwn yn rhoi canlyniadau o fferm laeth tir isel, gwndwn rhygwellt Eidalaidd a gwndwn tymor byr ifanc, a fferm cig eidion a defaid organig sy’n tyfu rhygwellt Eidalaidd meillion coch (IRG) yn ei hail flwyddyn. Fel aiff y tymor yn ei flaen bydd samplau o ffermydd uchderau uwch a rhai â dyddiadau torri hwyrach yn cael eu cynnwys.
Canlyniadau 'Prawf Glaswellt ar gyfer silwair' GDC (9 Mai 2012)
Cnwd |
Cig eidion a Defaid Lan-IRG Meillion Coch Organig (2 flwydd oed)
|
Newid o wythnos 1 |
Llaeth
|
LlaethIfton Hill-Gwndwn Ifanc (>5 mlynedd)(wythnos 4 )* |
Newid o wythnos 2 |
Targedau |
Defnydd Sych % |
18.7 |
-1.5 |
13.3 |
12 |
-0.6% |
30% ar gyfer clamp35-45% bêls |
Gwerth D |
75 |
71 |
67 |
67 |
-4 |
Cymhathu i’r dosbarth o stoc i’w porthi |
Defnydd sych ME MJ/kg |
12.0 |
-0.08 |
10.6 |
10.7 |
0.5 |
|
Protein Craidd % |
17.8 |
-1.5 |
18.5 |
21.4 |
-3.6 |
|
Nitrad N% |
0.00 |
-0.01 |
0.02 |
0.11 |
-0.2 |
<0.1 |
Siwgr Toddadwy %@20% DM |
4.2 |
Dim newid |
2.8 |
2.1 |
Dim newid |
>3% |
Nitrogen : Sylffwr |
|
|
|
0.37% of DM Samplwyd Wythnos 2 |
|
13:1 neu 0.25% o ddefnydd sych |
-
Heb ei samplo wythnos 3
Ifton Hill
Mae lefelau egni yn y gwndwn gwair llai na 5 mlwydd oed yn syrthio, wrth i’r cnwd aeddfedu. Mae lefelau protein yn dal i fod yn uwch na’r targed o 18% ar gyfer stoc gynhyrchiol. Erbyn i’r cnwd gael ei silweirio yr wythnos nesaf, yn ddibynnol ar y tywydd, bydd yr egni wedi syrthio ymhellach a bydd yn cynhyrchu silwair egni canolig swmpus gyda phrotein rhesymol. Mae mater sych yn isel iawn oherwydd y tywydd gwlyb, gan y gallai hyn achosi problemau gyda chynhyrchu elifiant - gweler yr awgrymiadau pynciol isod. Mae siwgrau wedi aros ar yr un lefel isel gyda diffyg cynhyrchu siwgr yn gysylltiedig â’r tywydd cymylog. Mae lefel y nitrad wedi syrthio ac mae bron â chyrraedd y targed, erbyn i’r cnwd gael ei dorri ni ddylai fod yn broblem o safbwynt silweirio. Mae lefelau sylffwr yn dda, sy’n ganlyniad i’r cnwd dderbyn dogn o wrtaith sylffwr yn cynnwys gwrtaith yn y gwanwyn. Mae Ifton Hill yn ardal o ddyddodiad sylffwr isel ac mae arweiniad a roddwyd yn The Fertiliser Manual, RB209 (http://www.defra.gov.uk/publications/files/rb209-fertiliser-manual-110412.pdf ) yn dangos bod dyddodiad sylffwr yn yr ardal o gwmpas y fferm yn isel. Lle yr awgrymir diffyg sylffwr, yr argymhelliad yw gosod 40 kg SO3/ha fel sylffad yn cynnwys gwrtaith ar ddechrau tyfiant cyn pob achos o dorri. Profi samplau gwair nad ydynt wedi derbyn gwrtaith sylffwr am eu cynnwys sylffwr yw’r ffordd orau i benderfynu a oes angen defnyddio sylffwr.
Yr wythnos hon, samplwyd gwndwn rhygwellt Eidalaidd er cymhariaeth ac mae’r mater sych a’r lefelau egni yn debyg iawn i’r gwndwn gwair cymysg llai na 5 mlwydd oed ond mae’r protein crai a nitrad N yn is. Mae siwgrau toddadwy yn uwch gan ei olygu ei fod yn wair hawdd ei silweirio.
Lan
Mae gan y gwndwn Eidalaidd meillion coch organig ifanc werth D ardderchog o hyd, siwgrau toddadwy ac egni uchel gyda’r DM isel yn adlewyrchu’r tywydd a’r cnwd dail gwlyb ifanc a reolir gan y gwair. Mae lefelau nitrad bron yn amhosib eu canfod ac mae’r lefelau siwgr ar darged ar gyfer twymo da. Nid yw hyn eto’n barod i’w dorri a chaiff ei brofi eto yr wythnos nesaf.
Silweirio – Byddwch yn barod!
Awgrymiadau Pynciol:
Gyda rhagolygon y tywydd yn parhau’n ansefydlog mae llawer o dyfwyr yn aros yn bryderus am ddiwrnod sych o gynaeafu - mae angen sylw arbennig ar reoli cynaeafu a storio clampiau gyda’r tywydd gwael a’r pridd gwlyb presennol.
Ymdrin â Gwair Gwlyb wrth Silweirio.
Uchder Torri a hyd Cildorri
-
I leihau’r perygl o halogi’r tir gadewch sofl yn hirach na’r arfer. Yn hytrach na thorri ar 5cm (2 fodfedd), torrwch ar 7.5-10cm (3-4 modfedd)
-
Mae’n debygol y bydd llawer o wair yn mynd i mewn i glampiau gyda mater sych isel iawn - gofalwch rhag ei gildorri’n rhy fân. Gall hyd cildorri byr arwain at orgywasgu clampiau a rhyddhau elifiant yn gyflym. Gall silwair sydd wedi’i orgywasgu ddod yn ansefydlog iawn ac arwain at y clamp yn llithro.
-
Byddwch yn barod i ymdrin â symiau mawr o elifiant. Mae’n berffaith bosib y gallai silwair gwlyb ryddhau mwy na 250l o elifiant y dunnell o silwair.
-
Gwnewch yn siŵr bod yr holl ddraeniau elifiant yn lân ac yn gweithio’n dda. Gwiriwch hwy yn rheolaidd ar ôl clampio’r silwair.
-
Os oes gennych unrhyw bryderon am allu’r clampiau a thanciau i ymdrin â swm mawr o elifiant ystyriwch wneud bêls yn lle, a storio’r bêls mewn ardal addas o leiaf 10m o ddyfrffordd.
-
Bydd defnyddio asid ar silwair yn cyflymu rhyddhau elifiant o’r clamp.
-
Os yn bwydo’r elifiant cofiwch ei ddefnyddio’n gyflym gan y bydd yn uchel mewn siwgrau ac yn dechrau magu llwydni yn gyflym iawn.
-
Os yn lledaenu elifiant gofalwch eich bod yn osgoi heintio dyfrffyrdd (parth diogel 10m) gan fod elifiant yn llygrydd pwerus iawn. Gwanhewch o leiaf 1:1 gyda dŵr i atal llosg gwair. Anelwch at gyfradd rhwng 25-30m3/ha (2200-2700gl/erw).
-
Gall halogi pridd fod yn broblem fawr wrth dorri a symud gwair mewn amgylchiadau gwlyb. Gall arwain at halogi â bacteria sy’n arwain at silwair wedi’i dwymo’n wael gyda gwerth bwydo is, a chynyddu’r perygl o glefydau listeria mewn da byw os na chaiff ei reoli’n ofalus adeg porthiant.
-
Osgowch yrru dros y rhwymau yn y cae
-
Cadwch yr ardal glampio’n lân a sicrhewch nad yw’r pridd o olwynion y trelar yn cael ei gario i mewn i’r clamp ar y rhaca.
-
Os bydd angen glanhewch y tractor ac olwynion y trelar drwy osod peth gwair wedi’i dorri mewn mynedfeydd a’r ffordd ar wyneb y clamp
-
Os yn gwneud byrnau mae’n llawer gwell dod â nhw yn ôl i fuarth sych i’w rhwymo yn hytrach na’u rhwymo yn y cae.
Sylffwr: Mae sylffwr yn doddadwy ac nid yw wedi’i storio yn y pridd. Bydd cwrdd ag anghenion sylffwr y gwair yn codi lefelau siwgrau toddadwy a phrotein gwirioneddol mewn toriadau silwair a allai wella twymo a chynhyrchu anifeiliaid.
Mae angen rhwng 30-50% o sylffwr ag o nitrogen ar wair.
Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd!
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
09 Hydref 2012
-
14 Medi 2012
-
14 Medi 2012
-
12 Medi 2012
-
30 Awst 2012
