Academi Amaeth Cyswllt Ffermio – Rhaglen Arweinyddiaeth Gwledig newydd ei lansio yn y Ffair Wanwyn
Lansiwyd rhaglen newydd i Gyswllt Ffermio yng Ngŵyl y Gwanwyn ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar 19 o Fai, prosiect Academi Amaeth.
Cafodd y Rhaglen Arweinyddiaeth Gwledig, sy’n gydweithrediad rhwng Cyswllt Ffermio a’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) ei lansio ar y cyd gyda’r Athro Wynne Jones, Cadeirydd bwrdd strategol ymgynghorol Cyswllt Ffermio a Llywydd Sioe Frenhinol Cymru eleni, Mr. John Davies, Pentre, Aberhonddu.
Mynychwyd y lansiad gan gynrychiolwyr o sectorau gwahanol, sefydliadau allweddol gwledig yng Nghymru, ac anogodd Mr Davies iddynt gefnogi Cyswllt Ffermio a’r Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru wrth enwebu ymgeiswyr â’r photensial i ddod yn arweinwyr amaethyddol y dyfodol.
“Mae’r chwiliad am 15 o ymgeiswyr yn dechrau nawr sydd â’r potensial i roi Amaethyddiaeth Cymru ar yr agenda ryngwladol. Mae nifer o ffermwyr yn rhy gymedrol neu’n amhard i gydnabod eu gallu a’u h’arbenigedd, felly rydym yn wirioneddol dibynnu ar yr holl sefydliadau gwledig fel undebau ffermio Cymru, y CFfI, a Chymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad i enwebu unigolion addas nad ydynt efallai yn meddwl am wneud cais eu hunain,” meddai Mr. Davies.
Gofynnir am geisiadau ymgeiswyr yn uniongyrchol sy’n gymwys i gael cymorth Cyswllt Ffermio sy’n teimlo bod ganddynt botensial fel arweinyddion, ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau arwain a gwneud mwy o gyfraniad i’r economi wledig. Bydd ymgeiswyr angen cefnogaeth sefydliad sy’n barod i roi geirda. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau neu unigolion yw 30 Mehefin 2012.
Bydd y Rhaglen Arweinyddiaeth Gwledig yn rhedeg yn ystod y chew mis rhwng Sioe Frenhinol Cymru ar ddiwedd mis Gorffennaf a Chynhadledd Cyswllt Ffermio a gynhelir ym mis Chwefror 2013. Bydd wyth diwrnod yn cael ei neilltuo gan gynnwys taith astudio tri diwrnod i Senedd Ewrop ym Mrwsel. Bydd sesiynau tiwtorial a seminarau ar gyfathrebu effeithiol, sgiliau arwain a rheoli, cadeiryddio llwyddiannus, rhwydweithio ac ymgysylltu.
Mae rhagor o wybodaeth ynghyd ag amodau, telerau a ffurflenni cais i’w lawrlwytho arwww.menterabusnes.co.uk/farmingconnect
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
09 Hydref 2012
-
14 Medi 2012
-
14 Medi 2012
-
12 Medi 2012
-
30 Awst 2012
