Entrepreneuriaeth Merched yn Ennill Gwobr Effaith Uchel
17 Tachwedd, 2011
Dyfarnwyd Gwobr Effaith Uchel 2011 i Fenter Merched sy’n Entrepreneuriaid ym Mhrifysgol Morgannwg (NEW@glam) am ei gwaith yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-eang 14 – 18 Tachwedd).
Fel rhan o’r wythnos, cynhaliodd Canolfan Entrepreneuriaeth Merched y Brifysgol ddigwyddiad NEW@glam ar gyfer entrepreneuriaid newydd a’r rheiny sydd â diddordeb yn y maes.
Bu Angela Gidden, un o ddylunwyr-perchnogion gorau Cymru a Chyfarwyddwr 2 gwmni: Attic 2 Design Studio a Nomad & Nest eco-lifestyle sydd â chleientiaid yn y DU a chleientiaid rhyngwladol gan gynnwys Liberty, The Conran Shop a Heals.
Rhoddodd Angela gipolwg ar ei thaith entrepreneuraidd gan gynnwys yr uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau, yr heriau a’r datrysiadau a siaradodd am ei hagwedd tuag at ymchwil y farchnad mewn busnes.
Lansiwyd NEW@glam yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-eang y llynedd ac mae’n dwyn ynghyd fyfyrwyr benywaidd presennol sydd â diddordeb mewn menter ac entrepreneuriaeth gyda merched sydd wedi graddio o Forgannwg ac wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain, entrepreneuriaid sy’n ferched o'r gymuned fusnes leol a merched sy’n cynrychioli sefydliadau cymorth busnes.
Dywedodd Christine Atkinson Pennaeth Canolfan Entrepreneuriaeth Merched ym Mhrifysgol Morgannwg: “Rydym wedi cael y wobr oherwydd natur barhaus NEW@glam ac oherwydd bod y model a ddefnyddiwn yn dod â myfyrwyr i gysylltiad rheolaidd â merched sy’n entrepreneuriaid a'r sector cymorth busnes. Ein nod tymor hir yw datblygu’r fenter yn rhwydwaith trosglwyddo gwybodaeth, nid yn unig fel y gall myfyrwyr ddysgu o brofiad merched sy’n entrepreneuriaid, ond y gall y merched hynny hefyd elwa o’r wybodaeth newydd ac ymchwil y daw’r myfyrwyr i’r gymysgedd".
Siaradodd Esther Apoussidis, un o raddedigion MSc mewn Marchnata, Prifysgol Morgannwg, yn y digwyddiad hefyd am ei thaith hyd at agor ei busnes Coffee Continental Blackwood Ltd. Mae Esther newydd ennill y wobr Merched mewn Busnes yn Fforwm Busnes Caerffili.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
06 Tachwedd 2012
-
18 Gorffennaf 2012
-
18 Gorffennaf 2012
-
12 Gorffennaf 2012
-
06 Gorffennaf 2012