Wedi rhedeg ganmenter a busnes
 Wedi rhedeg gan
menter a busnes

Cysgodi Entrepreneuriaeth: y gwirionedd y tu ôl i ddechrau busnes

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Cysgodi Entrepreneuriaeth: y gwirionedd y tu ôl i ddechrau busnes

Er bod pobl ifanc yn gallu bod yn llawn syniadau am ddechrau busnes, nid ydynt bob amser yn meddu ar yr hyder i wneud penderfyniad cadarn ac i gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Yng Nghymru, entrepreneuriaid yw’r rhai all helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer busnes. Eu helpu i ddeall realiti bod yn fòs ar eu hunain, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, y materion ymarferol sy’n ymwneud â busnes, ynghyd a’r daith emosiynol o roi’r dyfodol yn eich dwylo eich hunan.

Mae Cysgodi Entrepreneuriaeth, fel yr awgryma’r enw, yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd â gwir ddiddordeb mewn dechrau busnes archwilio’r opsiwn ymhellach drwy weithio ochr yn ochr ag entrepreneuriaid profiadol.

Mae’n ymwneud â rhoi rhagflas iddyn nhw o fywyd fel entrepreneur, yr heriau o ddydd i ddydd, y penderfyniadau a’r weithgaredd o redeg busnes.

Sut mae’n gweithio?

Bydd prosiect peilot cychwynnol yn digwydd rhwng Chwefror ac Ebrill 2011. Caiff hwn ei gynnal mewn partneriaeth ag UWIC, Caerdydd. Bydd UWIC yn arwain ac yn nodi myfyrwyr addas, eu paru ag entrepreneuriaid, yn paratoi’r naill a’r llall ar gyfer y profiad, yn ymgymryd â gofynion Iechyd a Diogelwch ac yn sicrhau y bydd dysgu’n cael ei gyflawni o’r profiad.

Bydd y rhaglen yn para am gyfnod o bum wythnos am o leiaf 30 awr, pan fydd hynny’n gyfleus i’r myfyriwr ac i’r entrepreneur. Bydd y cyfnod hwn yn ymwneud â dod o hyd i’r cyfleoedd dysgu gorau i’r myfyriwr, ac ar yr un pryd yn galluogi’r entrepreneur i llwyddo i gadw at eu hamserlen brysur a gwneud y gorau o’u hamser a’u gwybodaeth werthfawr.

Mae hyn yn ymwneud â chydweithio â’r entrepreneur a bod yn agored i holl agweddau ar y busnes.

Prosiect peilot yw Cysgodi Entrepreneuriaeth sy’n cael ei ddarparu â chymorth perchnogion busnes, y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Siambr Fasnach De Cymru ac Athrofa Prifysgol Caerdydd (UWIC).

Dod i wybod mwy am:

• Beth sy’n ddisgwyliedig gan yr entrepreneur a’r myfyriwr

• Amcanion y rhaglen a’r logisteg

• Sut i gymryd rhan fel entrepreneur

Ewch i: www.SyniadauMawrCymru.com

 

“ Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi pobl ifanc i ddechrau mewn busnes. Drwy rannu fy mhrofiad i rwy’n gobeithio eu helpu nhw i ddeall beth sydd angen ei wneud i redeg busnes a’u helpu i wneud eu penderfyniadau ar gyfer y dyfodol. Pwy a wyr, efallai y bydda i’n dysgu rhywbeth hefyd!”

Annette Chinn, Taskforce Paintball