Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Enillwyr brif wobr Gorsedd y Dreigiau 2011 gyda Prif Weithredwr Menter a Busnes

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Gorsedd y Dreigiau

Entrepreneuriaid Gogledd Cymru yn dangos presenoldeb cryf yng nghystadleuaeth fusnes amlycaf yr Eisteddfod ond partneriaeth o Sir Benfro yn cipio’r brif wobr

Daeth dau entrepreneur o Foncath i’r brig mewn cystadleuaeth fusnes fawreddog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Mae cystadleuaeth Gorsedd y Dreigiau wedi ei seilio ar y gyfres deledu boblogaidd Dragons Den. Cafodd entrepreneuriaid eu gwahodd i gyflwyno eu cynllun busnes i banel o Ddreigiau Cymreig, mewn ymgais i ennill £5000 o fuddsoddiad ynghyd â chymorth busnes proffesiynol er mwyn datblygu eu menter. Roedd £2000 pellach yn cael ei wobrwyo i’r cwmni sy’n dangos defnydd arloesol o’r iaith Gymraeg neu ddwyieithrwydd o fewn eu busnes. Cafwyd ceisiadau uchel iawn eu safon eleni gan 26 o fusnesau oedd a’i bryd ar gipio’r wobr. Enillwyr y brif wobr oedd Carwyn Adams a Will Kerr o Foncath yng Ngogledd Sir Benfro a’u partneriaeth Saloni, sy’n cynhyrchu salami Cymreig a selsig chorizo. Yn dilyn gwaith ymchwil helaeth gan gynnwys taith i’r Eidal i ddysgu mwy am eu maes, treuliwyd 2 flynedd yn perffeithio’r cynnyrch, cyn ei lawnsio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni. Cafwyd adborth eithriadol o bositif gan y cyhoedd gan werthu allan o’r cynnyrch cyn diwedd y sioe. Mae Will Kerr yn magu brîd prin o foch Cymreig, sy’n bwydo ar faidd, sy’n digwydd bod yn gynnyrch gwastraff o broses gynhyrchu Caws Cenarth, ble mae Carwyn Adams yn rheolwr gyfarwyddwr. Maent wedi llwyddo i ddatblygu ffordd unigryw o ychwanegu gwerth i’r cig moch yn ogystal â chadw lefel milltiroedd bwyd y cynnyrch yn isel. Roedd y beirniaid wedi eu plesio’n fawr gan botensial y cynnyrch yn y farchnad. Rhoddwyd gwobr o £2000 i Tim Lloyd o gwmni ‘Always Aim High’ o Gaernarfon sy’n manteisio ar dirlun gogoneddus Gogledd Cymru trwy drefnu cystadlaethau awyr agored megis triathlon a marathon ar hyd arfordiroedd y Gogledd ac yn Eryri. Mae’r cwmni eisoes wedi trefnu dau ddigwyddiad mawr eleni ac yn tyfu yn gyflymach na’r disgwyl gydag wyth digwyddiad arall i’w trefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Triathlon yw’r chwaraeon sy’n cynyddu gyflymaf mewn poblogrwydd yn y DU felly canmolodd y beirniaid y cwmni am eu hymagwedd entrepreneuraidd o fanteisio ar dŵf y sector. Dywedodd Delyth Kendrick, ar ran cwmni ‘Aim High’, “rydym yn gweld y math yma o ddigwyddiadau mewn mannau eraill o’r DU ond mae angen cyflwyno pobl i harddwch Gogledd Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn atynnu pobl sydd ag incwm uwch i’w wario, fydd yn ei dro yn cefnogi busnesau lleol a hefyd yn ymestyn y tymor twristiaeth yn yr ardal. Rydym yn awyddus i drefnu’r digwyddiadau yn ddwyieithog ac i godi ymwybyddiaeth pobl am ein hiaith a’n diwylliant.” Cafwyd canmoliaeth hefyd i’r trydydd cwmni a gyrhaeddodd y rhestr fer wrth iddynt dderbyn wobr o £1000. Lawnsiodd cwmni Cwrw Llŷn o Lwyndyrys, ger Pwllheli eu cwrw cyntaf ‘Brenin Enlli’. Cyflenwir y cwmni eisioes 4 o’r tafarndai lleol, gyda 10 tafarn arall ar eu rhestr aros. Yn ogystal â hyn, yn ddiweddar cawsant feddiant ar adeilad yn Nefyn fydd yn galluogi’r cwmni i ehangu er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol. Mae gan y cwmni 12 o gyfarwyddwyr sydd â phrofiad sylweddol mewn meysydd eraill ond wedi uno i lenwi’r twll yn y farchnad. Mae gan y cwmni hefyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu canolfan dreftadaeth fydd yn codi ymwybyddiaeth am hanes a thraddodiad bragu cwrw ym Mhen Llŷn; mae tystiolaeth yn dyddio yn ôl i’r oes efydd wedi ei ddarganfod ym Mhorth Niwgwl. Mae’r criw hefyd yn bwriadu creu marchnad i ffermwyr lleol dyfu grawn bragwyr ar sail fasnachol, fydd yn y pen draw yn creu cynnyrch wirioneddol leol a lleihau lefel y milltiroedd bwyd yn y broses gynhyrchu. Roedd y panel o ddreigiau hefyd yn awyddus i gydnabod tri chwmni arall a ddaeth yn agos iawn i’r rownd derfynol: Nicole Gwynne, Cross Foxes, Dolgellau Telor Edwards, ‘Tidy Tryc’, Llanuwchllyn Dyddgu Williams, Meithrinfa Blagur, Rhydyclafdy Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan y cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes a Llywodraeth Cymru gyda chymorth Cwmni Teledu Telesgôp a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes - “Dyma’r drydedd flwyddyn i ni lwyfannu cystadleuaeth o’r fath yn yr Eisteddfod ac mae hi’n cynyddu mewn poblogrwydd bob blwyddyn. Roedd ceisiadau eleni o safon arbennig felly cafodd y dreigiau dasg anodd iawn o ddewis yr ennillwyr.” Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Teledu Telesgôp oedd yn cadeirio ar ran y dreigiau, ychwanegodd mai “dyma un o gystadlaethau pwysicaf yr Eisteddfod. Mae entrepreneuriaid Cymreig yn rhoi cyfraniad amhrisiadwy i’r iaith a diwylliant Cymreig trwy greu swyddi i bobl ym mhob rhan o Gymru. Mae’r gystadleuaeth yn tynnu sylw amlwg at ysbryd mentergarwch Cymreig, hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.” Roedd y panel o feirniaid (neu o ddreigiau!) yn cynnwys Gari Wyn (cyd-sylfaenydd a pherchennog cwmni Ceir Cymru), Elin Rhys (Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgôp), Arwel Hughes (Cwmni Sain a Goleuo MAD) a Nia Lynn Jones (sylfaenydd cwmni Momentwm yn yr Wyddgrug). Gorffennodd Alun Jones trwy ddweud “Mae hwn yn blatfform perffaith i ddathlu ysbryd mentergarwch y Cymry. Mae dyfodol yr iaith a diwylliant Cymreig yn llwyr ddibynnol ar greu a sicrhau swyddi ymhob rhan o Gymru ac mae gan entrepreneuriaid cynhenid rôl bwysig i chwarae yn natblygiad yr economi.” Os hoffech fwy o fanylion neu am wybodaeth bellach am Gorsedd y Dreigiau, cysylltwch ag Einir Davies neu Alun Jones yn swyddfa Menter a Busnes ar 01970 636565.

Newyddion