Gwahoddir ffermwyr a choedwigwyr ar draws Cymru i fynychu dau ddigwyddiad i ddathlu Agrisgôp fydd yn rhoi blas i ffermwyr a choedwigwyr am sut mae cynllun rheolaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu yn llawn, yn cynorthwyo busnesau ar hyd Cymru i fod yn gynaliadwy. Bydd y digwyddiadau yn ran o ymgyrch recriwtio i ddenu aelodau i ymuno a sefydlu grwpiau Agrisgôp newydd. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn y ddau ddigwyddiad.
- 1.30yh – 5yh, Tachwedd 25
Digwyddiad Dathlu Agrisgôp, Halfway Inn, Nantgaredig, SA32 7NL
Siaradwr gwadd: ffermwr a dyn busnes Nigel Evans sy’n rhedeg ei fusnes twristiaeth a fferm odro a chyfarwyddwr Evanridge Properties. Mae Nigel hefyd yn gyfarwyddwr First Milk, cydweithfa llaeth mwyaf Prydain a bydd yn siarad am ei daith o redeg palwr godro yng Nghymru i fod yn reolwr gyllid llwyddiannus.
- 1.30 yh – 5yh, Rhagfyr 1
Digwyddiad Dathlu Agrisgôp, Canolfan Grefftau, Ruthin, LL15 1BB
Siaradwr gwadd: Sion Roberts, partner gyda chyfrifwyr Dunn & Ellis, Porthmadog, yn arbenigo mewn busnesau gwledig ac amaethyddol. Bydd Sion yn siarad am effeithiau datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar busnesau sefydledig a newydd.
“Bydd y digwyddiadau yma yn ein helpu i ddathlu’r llwyddiant arwyddocaol mae ein aelodau wedi ei wedi mwynhau ers sefydlu’r rhaglen wyth mlynedd yn ôl a credwn y byddent yn ysbrydoli ffermwyr newydd i ymuno,” meddai rheolwr datblygu Agrisgôp Wyn Owen.
Sefydlwyd y rhaglen Agrisgôp, sydd wedi’i ariannu’n llawn a sydd yn cael ei weithredu gan Menter a Busnes, wedi ei selio ar y cysyniad o ddysgu drwy weithredu, wyth mlynedd yn ôl i gynorthwyo unigolion a teuluoedd i adnabod syniadau a chyfleoedd i wneud ei busnesau yn fwy effeithiol a chynaliadwy.
“Yn yr wyth mlynedd diwethaf, mae mwy na 250 grŵp wedi ffurfio, gyda dros 1,500 o aelodau yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau ar bynciau yn amrywio o ynni adnewyddadwy a chynhyrchu wyau’r maes i ychwanegu gwerth i gynnyrch bwyd a mentrau cyd-weithredol,” meddai Wyn.
Cynhelir cyfarfodydd Agrisgôp fel arfer dros gyfnod o chwe mis, gyda grwpiau bychan o ffermwyr o’r un feddwl yn dod ynghyd gyda chefnogaeth gan arweinwr Agrisgôp profiadol, sy’n eu galluogi i ddarganfod atebion i broblemau unigol a datblygu syniadau newydd.
Mae Agrisgôp, sy’n wasanaeth wedi’i ariannu yn llawn i ffermwyr a choedwigwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, hefyd yn annog cyfranogwyr i ddatblygu eu syniadau drwy ymweld â mentrau eraill. Mae ffocws pob grwp yn cael ei arwain gan ddiddordebau ac anghenion penodol y grwp a’r uniogolion ymglymedig.
Er mwyn archebu lle i’r digwyddiad uchod, neu i ddarganfod mwy am Agrisgôp cysylltwch gyda Bethan Arch ym Menter a Busnes. Ffôn: 01970 636285 neu ebost bethan.arch@menterabusnes.co.uk
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
10 Mai 2012
-
27 Ebrill 2012
-
11 Ebrill 2012
-
30 Mawrth 2012
-
13 Mawrth 2012
Digwyddiadau
-
18 Mai, 2012 - 14:00
-
30 Mai, 2012 - 11:00
