Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn edrych ar reoli gwartheg sych yn effeithiol

Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ffermwyr yn ardal Wrecsam i ddiwrnod agored i ddysgu mwy am reoli gwartheg sych yn effeithiol.  Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Neuadd Shordley, Hope, Wrecsam, LL12 9RT am 11yb dydd Iau’r 24 o Dachwedd.  Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal drwy garedigrwydd y Teulu Pilkington.

Mae Neuadd Shordley yn gartref i fuches Holstein Aintree, sy’n enwog am ei geneteg bridio.  Mae 200 o fuchesau godro gydag olynyddion bridio yn cael eu cadw ar y fferm gyda gwartheg bîff, 250 o ddefaid a 170 acer o dir âr.

Yn ystod gwaith milfeddygol rheolaidd, sylweddolwyd bod cyfraddau beichiogi yn disgyn a’r cyfnod lloeau i feichiogi yn cynyddu.  Gweithiodd Owen Tunney BVMS, MRCVS o Grŵp Milfeddygon Willows gyda Richard Pilkington i ystyried yr amodau gyda’r fuches a materion yn gysylltiedig gyda rheoli’r fuches sych, fydd yn prif bwnc yn ystod y diwrnod agored.

Bydd Andrew Holland o Ontrak Nutrition yn ymuno gydag Owen Tunney i drafod yr heriau o reoli’r fuches sych yn gywir - a oes gan Ontrak yr ateb gyda’i syniad chwyldroadol o gynnig dogn cyflawn i’r fuches sych mewn bêl?  Bydd Andrew yn darparu cyngor maethol ac yn siarad am y syniad o’r bêl.  Bydd cyfle i glywed sut derbyniodd y teulu Pilkington gefnogaeth Cyswllt Ffermio drwy’r cynllun ariannu 80% tuag at hyfforddiant drwy Raglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio a’r buddion mae hyn wedi dod i’r busnes.

Yng ngwanwyn 2011, gosododd y teulu Pilkington arae 4kW o baneli solar ffotofoltaig ar adeilad fferm.  Yn ystod y diwrnod agored byddent yn siarad am eu profiadau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, y canlyniadau, a’r newidiadau arfaethedig i gyfraddau’r Tariff Cyflenwi Trydan a bydd cyfle i weld y paneli solar newydd.

I gofrestru neu am ragor o wybodaeth am y digwyddiad yma, cysylltwch gydag Elaine Rees ar 07968 981332 neu e-bostio: elaine.rees@tiscali.co.uk.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan y Rhaglen Dabtblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013. Mae hwn yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.