Ar ôl ennill cystadleuaeth fewnol a gafodd ei feirniadu gan Fodel Rôl Dynamo, Geraint Hughes, teithiodd grŵp o fyfyrwyr Coleg Menai i Gaerdydd i gynrychioli’r coleg yn rowndiau terfynol Her Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2012. Roedd stamp gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 ar y gystadleuaeth eleni, oherwydd tasg y grwpiau oedd datblygu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai’n sicrhau bod ysbryd 2012 yn gadael ei ôl yn barhaol yng Nghymru.
Cafodd pob cystadleuydd 24 awr i ddatblygu syniad busnes, cynllun busnes a chynllun llif arian, er mwyn rhoi cyflwyniad manwl am eu cynnig busnes i arbenigwyr y diwrnod trannoeth. Doedd tiwtoriaid y coleg ddim yn cael eu helpu, ond roed rhai arbenigwyr wrth law, a rhoddwyd “Doleri Dynamo” i’r cystadleuwyr, i’w defnyddio i “brynu” cyngor gan Fodelau Rôl Dynamo ar faterion fel Marchnata, Cyngor Busnes a Sgiliau Cyflwyno.
Yr enw a ddewisodd grŵp Coleg Menai ar eu busnes oedd Localympics, ac fe aethon nhw ati i lunio cynllun busnes ar gyfer y cwmni hyrwyddo digwyddiadau mini-olympaidd mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, gan gyflwyno pobl ifanc i rai o’r chwaraeon mwy anarferol, ee ping-pong a dringo.
Ar ôl cystadleuaeth anodd iawn, gyda 18 o golegau eraill yn cymryd rhan, daeth y grŵp o faes rhaglen Celf a Dylunio Coleg Menai yn fuddugol, gan ennill tlws ac arian tuag at deithio i gam nesaf y gystadleuaeth. Byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Kyoto, Japan ym Mehefin .
Roedd eu darlithydd, Natalie Williams wrth ei bodd gyda pherfformiad y myfyrwyr: “Roedden nhw’n wych”, meddai. “Mae eu gallu creadigol a’u gwaith caled wedi talu ffordd, ac roedd eu cyflwyniad yn well na dim byd arall yn y sioe! Dwi’n falch iawn o bob un ohonyn nhw!”
Ychwanegodd Josh Hughe, myfyriwr ail flwyddyn: “Roedd o’n brofiad ffantastig i gael gweithio fel tîm efo fy ffrindiau, ac roedden ni wrth ein bodd pan sylweddolon ni ein bod wedi ennill!”
Cafodd tîm Coleg Menai ei longyfarch gan y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, a diolchodd i bawb a helpodd wneud y digwyddiad yn un mor llwyddiannus, gan gynnwys y siaradwr gwadd, David Roberts, un o Baralympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain, sydd wedi ennill un ar ddeg o fedalau aur, a’r entrepreneur Kevin Green, a oedd unwaith yn ddigartref ond erbyn hyn yn un o’r landlordiaid tai preifat mwyaf yn y DU ac wedi ymddangos ar raglen Channel 4, ‘Secret Millionaire’.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae’r digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiannus iawn ac fe hoffwn i longyfarch y colegau i gyd, y myfyrwyr a’r staff – am eu gwaith caled, eu brwdfrydedd a’u hymroddiad. Rwy’n falch iawn bod Coleg Menai yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y rowndiau terfynol ym Mehefin ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw.
“Mae’r gystadleuaeth yn gyfle gwych i ddangos sgiliau creadigol ac entrepreneuriaid myfyrwyr o golegau addysg bellach ledled Cymru, ac mae’r rowndiau terfynol yn benllanw misoedd o weithgareddau. Digwyddiadau fel y rhain sy’n ysbrydoli entrepreneuriaid y dyfodol ac yn helpu pobl ifanc i ystyried cychwyn eu busnesau eu hunain. Mae’r profiad hefyd yn fanteisiol i fusnesau sy’n chwilio am weithwyr ag ysbryd entrepreneuriaid i ychwanegu gwerth i’w busnesau.”
Diolchodd y Gweinidog hefyd i Fodelau Rôl Dynamo am roi eu hamser i helpu a mentora’r timau, a beirniadu’r gystadleuaeth.
Yn y rownd derfynol trwy’r byd yn Kyoto, Japan, cyflwynodd y grŵp o Goleg Menai gynllun busnes ffantastig a oedd yn amlinellu eu syniad o ddatblygu sinema ‘drive in’ gyda steil retro 1950au o’r enw Metro Movies.
Yn cystadlu yn erbyn 15 gwlad arall, death y grŵp o Gymru yn 3ydd trwy’r byd. Mae hyn yn lwyddiant ysgubol i’r grŵp ac yn ffordd berffaith o arddangos i’r byd y gwaith menter pen ei gamp sydd yn cael ei wneud yma yng Ngholegau Cymru.
Da iawn a llongyfarchiadau fil i chi.
I weld cais y grŵp, cliciwch ar y linc canlynol - http://youtu.be/yq9JTWYbPaw

Coleg Menai: Enillwyr Cymru 2012
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.

Coleg Menai - 3ydd trwy'r byd 2012
Newyddion
-
06 Tachwedd 2012
-
18 Gorffennaf 2012
-
18 Gorffennaf 2012
-
12 Gorffennaf 2012
-
06 Gorffennaf 2012