Newyddion diweddaraf

Marchnata Bwyd Cyfan | 23 Mai 2013

WYTHNOS GWIN CYMRU - CYNHYRCHWYR GWIN GAM YN NES AT SEFYDLU CYMDEITHAS GWINLLANNAU CYMRU

Mae cynhyrchwyr gwin wedi cymryd y camau cyntaf tuag ag ailffurfio Cymdeithas Gwinllannau Cymru i hyrwyddo’r diwydiant hwn sydd ar gynnydd yng Nghymru.  Daeth cynhyrchwyr o 10 o’r 17 gwinllan yng Nghymru i weithdy marchnata a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yng Ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg i drafod cynlluniau ar gyfer Wythnos Gwin Cymru  i’w chynnal rhwng 25 Mai a 2 Mehefin.  Roedd cynrychiolwyr o Ancre Hill Estates, Trefynwy; Gwinllan Bryn Ceiliog, Lecwydd; Gwinllan Llanerch, Hensol; Gwinllan Glyndwr, Y Bont-faen; Gwinllan Jabajak, Llanboidy; Gwinllan Llaethlliw, ger Aberaeron; Fferm Parva, Tyndyrn; Gwinllan Sugarloaf, Y Fenni; Gwinllan White Castle, ger Y Fenni a Gwinllan Cwm-Deri, Arberth yn bresennol.

Ffatri Fenter - Blas ar Fenter | 18 Ebrill 2013

Siopau newydd sbon Caergybi

  Mae’r tim blas ar fenter yn falch i gyhoeddi bod busnesau newydd wedi sefydlu yng nghanol y dref drwy gynllun y siopau gwag.  Yn ddiweddar mae Mandi Lambert wedi sefydlu ‘Needful Things’ sy’n gwerthu cynnyrch Wiccan o’r olygfa gothic. Yn ogystal mae’n cynnig darlleniadau gan ddefnyddio cardiau a pheli crisial. Mae’r siop yn fan cychwyn ardderchog ond mae Mandi yn gobeithio symud i adeilad mwy yn y dyfodol agos.Bydd yn cael cymorth Menter Môn a Busnes Cymru er mwyn datblygu’r busnes parhaol.