Newyddion diweddaraf

Ffatri Fenter - Blas ar Fenter | 18 Ebrill 2013

Siopau newydd sbon Caergybi

  Mae’r tim blas ar fenter yn falch i gyhoeddi bod busnesau newydd wedi sefydlu yng nghanol y dref drwy gynllun y siopau gwag.  Yn ddiweddar mae Mandi Lambert wedi sefydlu ‘Needful Things’ sy’n gwerthu cynnyrch Wiccan o’r olygfa gothic. Yn ogystal mae’n cynnig darlleniadau gan ddefnyddio cardiau a pheli crisial. Mae’r siop yn fan cychwyn ardderchog ond mae Mandi yn gobeithio symud i adeilad mwy yn y dyfodol agos.Bydd yn cael cymorth Menter Môn a Busnes Cymru er mwyn datblygu’r busnes parhaol.