Archif Newyddion

Cyswllt Ffermio | 13 Mawrth 2012

Cyn hir, rhaid llenwi pob ffurflen TAW ar-lein

Rhaid i bawb sydd wedi'i gofrestru i dalu TAW (gan gynnwys ffermwyr) gyflwyno ei ffurflenni TAW o'r gwanwyn hwn ymlaen ar-lein.   Ar hyn o bryd, dim ond busnesau sydd newydd eu cofrestru a'r rheini sy'n gwneud mwy na £100,000 sy'n gorfod cyflwyno eu TAW ar-lein a thalu'n electronig.  Mae pawb arall yn cael cyflwyno ffurflen bapur i'r HMRC.   O fis Ebrill, bydd hynny'n newid pan fydd yr 1.9 miliwn o fusnesau ym Mhrydain sy'n talu TAW yn gorfod cyflwyno'u ffurflenni TAW ar-lein a thalu'n electronig, ar gyfer y cyfnod cyfrif sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.   Bydd pob busnes sy'n talu TAW heb gyflwyno ffurflen ar-lein yn cael llythyr gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ym mis Chwefror i ddweud wrthyn nhw am y newid a beth sy'n rhaid iddyn nhw ei wneud.  

Ffatri Fenter - Blas ar Fenter | 28 Chwefror 2012

Siop newydd arall yng Nghaergybi!

Mae prosiect ‘Llenwi Siopau Gwag’ Caergybi yn mynd o nerth i nerth gyda siop newydd arall yn agor yn ganol y dref. Gyda chefnogaeth Partneriaeth Plas Cybi a Chyngor Môn, mae cleient Ffatri Fenter, James Morgan wedi agor ‘Rozzy’s Rock Shop’. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae James wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn yn trefnu gigs o fewn tafarndai lleol a chwarae mewn band. O’r gwaith yma gwelodd fwlch yn y farchnad a chysylltodd â chynllun Blas ar Fenter - Ffatri Fenter i dderbyn cymorth busnes a throi syniad yn realiti. Mae’r economi bresennol yn anodd iawn ond gyda chyd-weithio rhwng asiantaethau, mae’r Blas ar Fenter yn cynnig cyfleodd manwerthu deniadol iawn i gleientiaid y cynllun ac adfywio canol dref Caergybi yn yr un modd.   

Cyswllt Ffermio | 23 Chwefror 2012

Y wybodaeth ddiweddaraf ar firws Schmallenberg

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar firws Schmallenberg ar gael ar wefan DEFRA: http://vla.defra.gov.uk/science/sci_schmallenberg.htm

Marchnata Bwyd Cyfan | 22 Chwefror 2012

DIRPRWY WEINIDOG YN YMWELD Â BECWS O'R MATH DIWEDDARAF YNG NGOGLEDD CYMRU

Cyflenwi un o gwmnïau gwerthu bwyd enwocaf y Deyrnas Unedig yw'r eisin ar y deisen i fecws The Village Bakery o Ogledd Cymru. Ymwelodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd â becws newydd y cwmni yn Wrecsam i weld cynhyrchu yn y busnes sydd yn ddiweddar wedi ennill contract i gyflenwi sgons becws yn-y-stôr i gaffes Café Revive Marks & Spencer ym Mhrydain. Gwerthir y sgons yn y neuadd fwyd drwy'r becws yn-y-stôr yn ogystal ag yn y caffes. Mae gan y busnes teuluol a sefydlwyd bron 80 mlynedd yn ôl dri safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys becws crefft o'r math diweddaraf un a agorwyd yn ddiweddar yn Wrecsam yn cynhyrchu sgons a nwyddau bore. Mae'r cwmni, a gaiff ei redeg gan y teulu Jones - Alan a'i feibion Robin, Christien a Tim - yn cyflogi 230 o bobl ac yn cynhyrchu amrediad o gynnyrch parod wedi’u pobi, cynnyrch pob wedi'u rhewi a chynnyrch wedi'u rhewi heb eu pobi.

20 Chwefror 2012

Penodiadau Diweddar - Swyddi Cyflogedig

Penodwyd Carys Griffiths yn Bencampwr Adeiladu gyda phrosiect SDS (penodiad mewnol). Mae Carys yn gweithio o swyddfa Bangor. Penodwyd Iestyn Gruffudd Jones yn Bencampwr Cyflenwi SDS (Conwy a Dinbych). Mae Iestyn yn gweithio yn swyddfa Bangor. Penodwyd Rhys Evans yn Rheolwr Rhanbarthol y Gogledd (Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio). Mae Rhys yn gweithio o adref. Penodwyd Siôn Evans yn Rheolwr Rhanbarthol y De Orllewin (Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth). Mae Siôn yn gweithio yn rhannol o swyddfa Aberystwyth ac yn rhannol o adref. Penodwyd Eleri James yn Swyddog Gweinyddol ar gyfer rhaglenni Cyswllt Ffermio. Mae Eleri yn gweithio yn swyddfa Aberystwyth Penodwyd Lowri Williams yn Hwylusydd Agrisgôp a Throsglwyddo Gwybodaeth Wrecsam a Fflint.

13 Chwefror 2012

Gallai mwy o drefi Cymru wyrdroi’r dirywiad mewn manwerthu

DATGANIAD I'R WASG Gallai’r dirywiad economaidd sy’n wynebu llawer o ganol trefi yng Nghymru o ganlyniad i gau siopau ac ardaloedd manwerthu gael ei wyrdroi pe byddai  mwy o gydweithio rhwng landlordiaid, grwpiau cymunedol a’r sector preifat. Mae’r cwmni datblygu busnes Menter a Busnes, sydd wedi bod ynghlwm wrth adfywio canol tref Caergybi lle mae mwy o siopau wedi ailagor nac sydd wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf, yn credu y gallai mwy o drefi wyrdroi’r dirywiad pe byddai cymunedau a’r sector preifat yn gweithio’n agosach â’i gilydd. “Canol y dref yw calon pob cymuned. Ond yn bwysicach, maent hefyd yn ganolbwynt cyflogaeth a gweithgarwch cymunedol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes.

TAG | 19 Ionawr 2012

Cyflwyniad i Fwrdd Da Byw NFU Cymru

Ar yr 8fed o Ragfyr 2011 rhoddwyd cyflwyniad am brosiect TAG i Fwrdd Da Byw NFU Cymru mewn cyfarfod misol. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau sydd wedi eu hethol o wahanol siroedd yng Nghymru.   Prif bwrpas y cyflwyniad oedd cyfarwyddo aelodau o’r bwrdd gydag amcanion y prosiect aa rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.. Y prif ddatblygiadau o ddiddordeb i’r bwrdd oedd:   Effeithiolrwydd a chywirdeb darllenydd EID mewn lladd-dy ŵyn Dibynadwyedd tagiau EID Dibynadwyedd offer EID   Esboniodd Cyfarwyddwr y prosiect fod TAG yn cael ei ystyried fel prosiect peilot gyda strwythur dyrys sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid o fewn y diwydiant. Ychwanegodd bod y prosiect wedi ei sefydlu mewn cyfnod lle bu gwrthwynebu mawr i gyflwyniad EID fel rhan o reolau traws gydymffurfio.

Cyswllt Ffermio | 13 Ionawr 2012

FiT for FARMING

Mi fydd Cyswllt Ffermio yn mynychu digwyddiad FiT for FARMING ar y 26ain Ionawr 2012 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd Mae’r Tariff Cyd-lenwi Trydan a Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy yn golygu bod perchnogion tir sydd yn buddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddiadwy yn medru hawlio taliadau ar gyfer y trydan a’r gwres maent yn cynhyrchu. Ond, i’r rhai hynny sydd â prinder amser, mae’n gallu bod yn anodd i ymrwymo’r amser er mwyn asesu’r cyfleoedd, dewis y technolegau gorau a’r cyflenwyr mwyaf addas. Mae’r digwyddiad ‘Fit for Farming’, sydd wedi ei gefnogi gan y CLA a NFU Cymru, yn cynnig cyfle i ffermwyr sydd yn meddwl am osod system ynni adnewyddadwy i drefnu cyfarfodydd gyda chwmnïoedd perthnasol er mwyn creu rhestr fer o gwmnïoedd bosib i weithio gyda.

TAG | 21 Rhagfyr 2011

Cadeirydd Menter “Working Smarter” yn ymweld â phrosiect TAG.

Apwyntiwyd y cynghorydd annibynnol, Mr Gareth Williams, gan Lywodraeth Cymru i ystyried os yw’r fframwaith reoleiddio y mae ffermwyr Cymru’n ymwneud ag ef yn addas.  Bydd yn cyflwyno adroddiad o argymhellion i Weinidogion fis Rhagfyr. Mae’n ymweld ag amrywiol ffermydd a busnesau gwledig er mwyn gweld beth sy’n gweithio, beth sydd fwyaf o fwrn, a ble mae’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Fel rhan o’r ymarfer casglu gwybodaeth hwn, treuliodd ddiwrnod ar Dachwedd yr 16eg yn ymweld â fferm Tier 1 prosiect TAG a Dunbia, safle prosesu ŵyn Llanybydder. Prif fwriad yr ymweliad oedd: •           Rhoi cyfle i Mr Gareth Williams i wella’i ddealltwriaeth o gyfleoedd datblygu ar fferm i ffermwyr defaid Cymru o safbwynt system EID defaid. •           Arddangos bwriad prosiect TAG o gynyddu gwerth y wybodaeth a gofnodir er mwyn bodloni rheolau traws-gydymffurfio

TAG | 21 Rhagfyr 2011

Ymweliad Swyddogion o Lywodraeth Kosovo

Ddydd Mawrth yr 11eg o Dachwedd bu tîm rheoli TAG yn gwesteio cynrychiolaeth o swyddogion llywdoraeth o Kosovo. Pwrpas yr ymweliad oedd trosglwyddo gwybodaeth yn y maes olrhain defaid, gan fod Kosovo bellach yn cofrestru da byw a daliadau da byw wedi sawl blwyddyn o aflonyddwch oherwydd gwrthdaro milwrol. Ymwelwyd â safle Dunbia yn Llanybydder, lle amlinellodd Paul Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Cymru, y diwydiant prosesu yn y DU, ac yna cafwyd taith o amgylch y ffatri, ble mae darllenydd rhes EID yn cael ei ddefnyddio yn yr adran dderbyn stoc. Cafwyd trafodaeth ddwys gyda Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd am ei dyletswyddau yng nghyd-destun olrhain anifeiliaid, a iechyd a lles anifeiliaid o fewn yr adran dderbyn. Mae’r diwydiant prosesu yn Kosovo wedi ei ddifrodi, dau safle’n unig sydd yn weithredol erbyn hyn, ac mae strategaeth ailadeiladu yn cael ei datganoli.