Modiwlau Lefel 2 Gwynedd

Mae'r unedau Entrepreneuriaeth yn gyfres o unedau, sydd wedi eu hachredu i Wobr BTEC Lefel 2 Sgiliau Gwaith. Mae'r unedau yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddysgu mwy am entrepreneuriaeth ac i ddatblygu sgiliau menter mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Wrth astudio tuag at Wobr Lefel 2, bydd bobl ifanc yn dysgu sut i gynllunio menter; rhedeg menter a sut i gynhyrchu cynnyrch. Bydd hefyd cyfleoedd i gyfarfod â entrepreneurwyr lleol sydd wedi sefydlu busnes eu hunain.