Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Llwyddo'n Lleol

Wedi ei lleoli yn ein Swyddfa Bangor

Nod

Datblygu diwylliant o fentro ymhlith pobl ifanc.

Amcanion

-Cynyddu hyder pobl ifanc yn eu cymunedau a'r dyfodol gall eu cymunedau ei gynnig

-Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r sectorau twf yn eu hardal, a'r cyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth sy'n deillio o'r sectorau

-Meithrin agwedd gallu-gwneud ymysg pobl ifanc, gan annog pobl ifanc i ystyried hunangyflogaeth fel dewis gyrfa posib

-Datblygu sgiliau menter ar gyfer cyflogaeth neu hunangyflogaeth

SESIYNAU SBARDUNO A'R FWRSARIAETH

Hoffech chi y cyfle i sefydlu busnes eich hun ac i fod yn fos?

Oes gennych chi syniad am fusnes, ond heb yr arian i sefydlu'r busnes?

Ydych chi eisiau dysgu mwy am redeg busnes, ond ddim yn gwybod lle i gychwyn?

Gallwn eich helpu!

Mae'r Sesiynau Sbarduno Syniadau yn rhoi cyfle i bobl ifanc flasu menter a rhoi ar waith eu sgiliau menter drwy sefydlu busnes eu hunain. Mae cyngor a chefnogaeth yn cael ei ddarparu i adnabod syniad busnes a datblygu cynllun busnes ar gyfer ymgeisio am fwrsariaeth Llwyddo'n Lleol. Mae'r gweithgaredd yn gallu cael ei achredu i gymhwyster BTEC Lefel 1 mewn Sgiliau Gwaith.

UNEDAU ENTREPRENEURIAETH

Mae'r Unedau Entrepreneuriaeth yn gyfres o unedau, sydd wedi eu hachredu i Wobr BTEC Lefel 2 Sgiliau Gwaith. Mae'r unedau yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddysgu mwy am entrepreneuriaeth ac i ddatblygu sgiliau menter mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Wrth astudio tuag at y Wobr Lefel 2, bydd pobl ifanc yn dysgu sut i gynllunio menter; rhedeg menter a sut i gynhyrchu cynnyrch. Bydd hefyd cyfleoedd i gyfarfod â entrepreneurwyr lleol sydd wedi sefydlu busnes eu hunain.

DIGWYDDIADAU HYRWYDDO SECTORAU TWF

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth o fewn gwahanol sectorau twf. Bydd cyfle i bobl ifanc gyfarfod a chlywed gan bobl sydd yn gweithio neu yn rhedeg busnes o fewn y sectorau; dysgu pa gymwysterau a phrofiadau sydd eu hangen i weithio o fewn y sectorau a'r amrywiaeth o gyfloedd gall pob sector ei gynnig.

Manylion Cyswllt :

01248 672 633 / llwyddo@menterabusnes.co.uk

Cefnogir y prosiect yma gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru