Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Ffatri Fenter - Blas ar Fenter

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma
Wedi ei lleoli yn ein Swyddfa Bangor ac Swyddfa Caergybi

Mae gwasanaethau‘r Ffatri Fenter ers Mehefin 2008 wedi cael eu hymestyn a bellach ar gael i drigolion Môn ag Arfon, Gwynedd.

Wyt ti dros 16, yn ddi-waith neu yn fyfyriwr addysg bellach ac yn byw yn ardal Môn neu Arfon? Eisiau cefnogaeth bellach ar ddatblygu neu dreialu syniadau busnes? Os felly, dyma‘r gwasanaeth i ti!

Mae ein tîm yn cynorthwyo unigolion i beilota eu syniadau busnes am gyfnod penodol o amser. Golyga hyn y gallant gael y profiad o redeg busnes eu hunain a phrofi gwerth y syniad busnes wrth barhau i dderbyn budd-daliadau neu i gyflawni ymrwymiadau personol e.e. astudiaethau coleg a chyfrifoldebau gofal teulu. Mae Menter a Busnes ers Medi 2008 wedi llunio cytundeb gweithredol gyda Chanolfan Byd Gwaith er mwyn sicrhau budd-daliadau ein cleientiaid tra maent yn treialu eu syniadau busnes.

Beth yr ydym yn ei gynnig?

  • Un cydlynydd sy‘n gweithio‘n agos iawn gyda‘n cleientiaid i sicrhau cymorth a chyngor o‘r safon uchaf
  • Cymorth i ddatblygu syniad
  • Cyfle i drafod a chael cefnogaeth anffurfiol gyda mentor sydd yn rhedeg busnes yn barod
  • Cymorth i ysgrifennu cynllun busnes h.y. troi syniadau yn y meddwl i‘w rhoi ar ddu a gwyn
  • Cymorth i ysgrifennu llif arian er mwyn gweld os oes potensial gwneud elw.
  • Rhoi‘r cleient mewn cysylltiad ag arbenigwyr ym mhob maes er mwyn cyngor neu hyfforddiant.
  • Cymorth gyda chynllunio a gwneud ymchwil marchnad.
  • Cyfeirio‘r cleient ymlaen i asiantaethau eraill a all fod o gymorth pellach.
  • Hyrwyddo‘r busnesau newydd ynghyd â chymorth i ysgrifennu strategaeth farchnata.
  • Sesiynau creadigol wedi eu teilwra.

 

Siop y Porth

Mae’r Ffatri Fenter Blas ar Fenter wedi datblygusafle unigryw, lle mae modd i gleientiaid flasueu syniad busnes a hyrwyddo eu cynnyrch neuwasanaeth mewn safle pwrpasol yng nghanoltref Caergybi sef Siop y Porth. Yn ogystal â'rpecyn cymorth arferol, gall cleientiaid fanteisioar yr adnoddau canlynol, yn rhad ac am ddim amgyfnod hyd at 6 mis tra’n blasu eu syniad busnes :

* Ffenestr siop i hyrwyddo'u cynnrych

* Ystafell trin harddwch

* Ystafell gyfrifiadurol

* Ystafell gyfarfod