Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Agrisgôp - Cyswllt Ffermio

Rhaglen datblygu rheolwyr...yn gyrru syniadau busnes ymlaen

Beth yw Agrisgôp…sut fydd o fudd i mi?

Mae Agrisgôp yn rhaglen datblygu rheolwyr, sydd wedi ei
hariannu’n llawn, ac sy’n cael ei darparu gan Gyswllt Ffermio ar
gyfer y rheiny sy’n ymwneud â busnes ffermio neu goedwigaeth.
Mae’n cyfuno unigolion a theuluoedd ar lefel leol i drafod syniadau busnes, a’u gyrru ymlaen. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu hwyluso gan arweinydd Agrisgôp sydd wedi cael ei hyfforddi.

Gan weithio gyda’i gilydd fel grŵp, gall aelodau Agrisgôp ddysgu  sgiliau rheoli newydd, cael mynediad i wybodaeth arbenigol
ac archwilio a datblygu dyfodol hyfyw ar gyfer eu hunain, eu
teuluoedd a’u busnesau.

Yn seiliedig ar y syniad o Action Learning, mae Agrisgôp yn
darparu’r cyfle i ddatblygu sgiliau a hyder, a fydd o gymorth
i aelodau’r grŵp adnabod syniadau a chyfleoedd ar gyfer eu
busnesau.

Mae aelodau Agrisgôp yn cyfrannu eu hamser, teithio, ac yn fwy
pwysig ymrwymiad positif i ddatblygiad y grŵp.

Mynychu cyfarfodydd Agrisgôp…beth sy’n digwydd?

Mae aelodau Agrisgôp yn cytuno gyda’u harweinydd pryd, ble a pha
mor aml maent am gyfarfod. Fel rheol mae wyth aelod ym mhob
grŵp, gyda phob grŵp yn cwrdd o leiaf chwe gwaith.

Mae ffocws pob grŵp Agrisgôp yn cael ei yrru gan ddiddordebau
ac anghenion penodol yr unigolion dan sylw. Gall ystod eang o
destunau gael eu trafod a’u datblygu, gan gynnwys:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Mentrau cydweithio
  • Marchnata
  • Cyfleoedd amrywiaeth
  • Olyniaeth
  • Cynllunio busnes
  • Ychwanegu gwerth i gynnyrch

Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu eu
syniadau trwy ymweld â mentrau eraill.

Gweithio gyda’ch arweinydd Agrisgôp

Mewn ymateb i anghenion rhanbarthol, mae tîm o arweinwyr grŵp
cymeradwy yn sefydlu ac yn hwyluso cyfarfodydd grŵp Agrisgôp
trwy Gymru gyfan.

Mae pob arweinydd yn dod o gefndir ffermio ac wedi cael eu
hyfforddi’n drylwyr mewn technegau sy’n eu galluogi i hyrwyddo a
datblygu’r sgiliau o fewn pob grŵp yn llwyddiannus.

Mae grwpiau Agrisgôp arferol yn cwrdd am gyfnod o rwng chwech
a deuddeg mis, er bod nifer o grwpiau’n dewis parhau wedi’r
amser yma.

Cymhwyster

Mae Agrisgôp yn cael ei ariannu’n llawn ar gyfer busnesau
cymwys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Agrisgôp, neu er mwyn sefydlu
grŵp Agrisgôp yn eich ardal, cysylltwch â’ch arweinydd Agrisgôp
lleol.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan y Rhaglen Dabtblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013. Mae hwn yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.