2 May 2012 - 12:15
Celtic Royal Hotel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AY
Trefnir y digwyddiad gan ‘Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr’ Llywodraeth Cymru. Bwriad y rhaglen yw datblygu a chynorthwyo cwmnïau lleol i ennill cytundebau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r gwasanaeth yma am ddim !!
Mae’r gweithdy yn gyflwyniad i’r byd tendro, a mewnwelediad i sut mae pethau’n gweithio o fewn y sector gyhoeddus yn cynnwys y rhwystrau, sut i fynd ati i’w llenwi i fewn ac ati. Byddwn yn cynnig cyngor ar sut i ddod o hyd i dendrau, sut i’w llenwi i fewn a beth ydych angen ei wneud i ennill tendrau.
Agenda:
1.15am Paned a chofrestru
1:30am Sut i dendro Rhan 1
3pm Egwyl a phaned
3.15pm Sut i dendro Rhan 2
5pm Gorffen a chinio
Os hoffech ymuno â ni cysylltwch hefo Derwenna Bridle yn ein swyddfa ym Mangor ar 01248 672610 neu anfon e-bost ati derwenna.bridle@menterabusnes.co.uk i archebu eich lle. Dim ond lle i 12 person sydd yn y gweithdy hwn, felly’r cyntaf i’r felin… ond mae croeso i chi roi eich enw ar restr wrth gefn ar gyfer y dyfodol.