Wedi rhedeg ganmenter a busnes
 Wedi rhedeg gan
menter a busnes

Dynamo

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma
No public posts in this group. You must register or login and become a member in order to post messages, and view any private posts.

Prif nod Dynamo yw annog pobl ifanc i godi eu dyheadau a gwireddu eu potensial i greu cyfleoedd cyffrous iddynt hwy eu hunain ac eraill.  Gwneir hyn drwy ddefnyddio rhwydwaith Modelau Rôl Dynamo mewn cyflwyniadau a digwyddiadau.  Perchnogion busnes yng Nghymru yw Modelau Rôl Dynamo sy'n ysbrydoli ac yn helpu pobl ifanc i ddeall sut a beth yw bod yn fos arnoch chi eich hun. 

Menter a Busnes sydd yn cydlynu prosiect Modelau Rôl Dynamo o fewn prifysgolion a cholegau ar draws Cymru.  Os hoffech wybod mwy am y prosiect neu i drefnu sgwrs gan fodel rôl yna cysylltwch â ni.

Beth rydym yn ei gynnig?

  • Drwy rannu llwyddiant pobl eraill, gall Modelau Rôl Dynamo rhoi hwb i hyder entrepreneuraidd pobl ifanc; gan eu helpu i werthfawrogi eu syniadau, eu dawn eu hunain a deall mwy am y llwybr i sefydlu busnes.
  • Mae Dynamo yn gweithio mewn partneriaeth a holl golegau a phrifysgolion Cymru i hyrwyddo ac annog entrepreneuriaeth
  • Mae deunyddiau Cwricwlwm Dynamo yn adnoddau ar gyfer athrawon a thiwtoriaid i gefnogi’r cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd pobl ifanc.

Am fwy o wybodaeth a manylion digwyddiadau sydd ar y gweill, edrychwch ar ein tudalen newyddion a digwyddiadau.