Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Syrjeri Olyniaeth

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

26 April 2012 - 09:00

Llanelwy

Mae cynllunio olyniaeth fferm yn gallu bod yn anodd a chymleth, ond yn fater pwysig sydd angen ei drafod. Er mwyn cynorthwyo teuluoedd fferm ddeall mwy am y materion sydd ynghlwm â’r pwnc mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o Syrjeris Olyniaeth fydd yn darparu ymgynghoriad un-i-un gyda cyfreithiwr am hyd at awr. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i holl aelodau Cyswllt Ffermio.

Dylai cynllunio ar gyfer olyniaeth nid yn unig gynnwys gwneud cynlluniau am yr hyn sy'n digwydd ar ôl i rywun farw ond dylid ystyried hefyd sut fydd y busnes yn cael ei redeg a'i reoli er mwyn sicrhau llwyddiant yn ystod bywydau'r genhedlaeth nesaf.  Mae angen i ffermwyr feddwl nid yn unig am yr hyn fydd yn digwydd i'r fferm  a’r ffermdy, a phwy sydd i etifeddu, ond hefyd sut bydd y fenter ffermio yn parhau a pwy fydd yn cario’r cyfrifoldeb. Gall cynllunio ymlaen llaw hefyd leihau rhwymedigaethau treth a materion ariannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y cyfreithiwr yn darparu synopsis o’r hyn drafodwyd gan grynhoi y materion fydd angen eu cymryd i ystyriaeth wrth drafod eich opsiynnau.

Bydd modd i chi sgwrsio yn breifat am hyd at awr, unrhyw bryd rhwng 9.00yb a 5.00yh.

Am gymorth pellach gyda cynllunio olyniaeth mae modd i ffermwyr dderbyn cymhorthdal gwerth 80% trwy raglen y Cynllun Fferm Gyfan.

I wneud apwyntiad mewn syrjeri olyniaeth ffoniwch 01970 636297 neu ebostiwch einir.davies@menterabusnes.co.uk. Mae’r niferoedd yn gyfyngedig felly mae’n hanfodol eich bod yn ffonio er mwyn sicrhau eich lle.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan y Rhaglen Dabtblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013. Mae hwn yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.