29 March 2012 - 09:00
Y Trallwng, Powys, SY21
Mae cynllunio olyniaeth fferm yn gallu bod yn anodd a chymleth, ond yn fater pwysig sydd angen ei drafod. Er mwyn cynorthwyo teuluoedd fferm ddeall mwy am y materion sydd ynghlwm â’r pwnc mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o Syrjeris Olyniaeth fydd yn darparu ymgynghoriad un-i-un gyda cyfreithiwr am hyd at awr. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i holl aelodau Cyswllt Ffermio.
Dylai cynllunio ar gyfer olyniaeth nid yn unig gynnwys gwneud cynlluniau am yr hyn sy'n digwydd ar ôl i rywun farw ond dylid ystyried hefyd sut fydd y busnes yn cael ei redeg a'i reoli er mwyn sicrhau llwyddiant yn ystod bywydau'r genhedlaeth nesaf. Mae angen i ffermwyr feddwl nid yn unig am yr hyn fydd yn digwydd i'r fferm a’r ffermdy, a phwy sydd i etifeddu, ond hefyd sut bydd y fenter ffermio yn parhau a pwy fydd yn cario’r cyfrifoldeb. Gall cynllunio ymlaen llaw hefyd leihau rhwymedigaethau treth a materion ariannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y cyfreithiwr yn darparu synopsis o’r hyn drafodwyd gan grynhoi y materion fydd angen eu cymryd i ystyriaeth wrth drafod eich opsiynnau.
Bydd modd i chi sgwrsio yn breifat am hyd at awr, unrhyw bryd rhwng 9.00yb a 5.00yh.
Am gymorth pellach gyda cynllunio olyniaeth mae modd i ffermwyr dderbyn cymhorthdal gwerth 80% trwy raglen y Cynllun Fferm Gyfan.
I wneud apwyntiad mewn syrjeri olyniaeth ffoniwch 01970 636297 neu ebostiwch einir.davies@menterabusnes.co.uk. Mae’r niferoedd yn gyfyngedig felly mae’n hanfodol eich bod yn ffonio er mwyn sicrhau eich lle.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
10 Mai 2012
-
27 Ebrill 2012
-
11 Ebrill 2012
-
30 Mawrth 2012
-
13 Mawrth 2012
Digwyddiadau
-
18 Mai, 2012 - 14:00
-
30 Mai, 2012 - 11:00
