Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

ISO 9001 /14001

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

15 May 2012 - 08:15

Canolfan Glasdir, Llanrwst, Conwy , LL26 0DF

Trefnir digwyddiad ymwybyddiaeth ISO 9001/14001 gan “Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr” Llywodraeth Cymru. Mae Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn anelu i ddatblygu a helpu cwmnïau i ennill cytundebau o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae nifer helaeth o dendrau a holiaduron cyn-gymhwyso o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn gofyn am y safon ansawdd ISO 9001 neu'r safon amgylcheddol ISO 14001 fel rhan o feini prawf y broses cymhwyso cyn-dendro. Bwriad y gweithdy hwn yw rhoddi mewnwelediad i gwmnïau o beth y mae yn ei gymryd i dderbyn yr achrediadau uchod, beth yw’r budd i fusnesau, pa gostau sydd ynghlwm hefo’r broses, pa mor hir mae’n cymryd i gael yr achrediad, pa oblygiadau sydd i fusnesau ac os ydi yn werth mynd i lawr y llwybr hwn ar gyfer eich cwmni chi.

Bydd y gweithdy yn cael ei rhannu i ddau sesiwn fel y gweler isod:

9.15am – 12.45pm – ISO9001, Cyflwyniad i Systemau Rheolaeth Ansawdd

1.30pm – 5.00pm – ISO14001, Cyflwyniad i Systemau Rheolaeth Amgylcheddol

Croeso i chi fynychu un neu’r ddau weithdy uchod.

Os hoffech ymuno â ni yn y seminar yma, gofynnir i chi gofrestru gyda Derwenna Bridle drwy e-bost i derwenna.bridle@menterabusnes.co.uk neu 01248 672610