Menter a Busnes



 

Amdanom Ni

 

Beth yw Menter a Busnes?

Cwmni annibynnol sy‘n helpu siaradwyr Cymraeg a phobl yng Nghymru yn gyffredinol i gyfrannu tuag at ddatblygu‘r economi yw Menter a Busnes.

Mae‘r cwmni yn gweithio ar sawl lefel:

  • Mae‘n cynllunio rhaglenni cymorth ym maes cefnogaeth busnes, mentergarwch ac arloesedd;
  • Mae hefyd yn darparu y math yma o raglenni cymorth yn lleol ac yn genedlaethol;
  • Mae‘n cyfrannu tuag at ddatblygiad polisi sy‘n ymwneud â meysydd gwaith y cwmni.

Mae grwp Menter a Busnes yn cynnwys is-gwmnïau masnachol sy‘n cynnig gwasanaethau ymgynghorol ym maes datblygu economaidd ac sydd hefyd yn gwerthu gwasanaethau sydd wedi eu hanelu at helpu busnesau i dyfu. Mae rhain yn cynnwys helpu gyda materion ariannol, marchnata a personél. Hefyd cynigir benthyciadau ar raddfa gystadleuol i rai mathau penodol o fusnesau.

Pam mae‘n bodoli?

Sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol er mwyn sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael y cymorth priodol i‘w cynorthwyo i gyfrannu i‘r economi – ac mae hynny‘n parhau yn rhan allweddol o rôl y cwmni. Mae‘r dulliau arloesol ddatblygwyd i gyflawni‘r rôl yma wedi esgor ar gyfleon eraill a bellach mae‘r cwmni‘n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ehangach ym maes datblygu economaidd yng Nghymru.

Sut mae‘n gweithio?

Mae‘r rhan fwyaf o wasanaethau‘r cwmni yn cael eu darparu mewn partneriaeth â chyrff eraill. Os ydynt yn wasanaethau ar ran cyrff cyhoeddus mae‘n rhaid i Menter a Busnes ennill yr hawl i‘w darparu trwy broses tendro cystadleuol. Hefyd, fe baratoir ceisiadau i ariannu gweithgareddau yn uniongyrchol, gyda arian cyfatebol yn cael ei ddarparu yn aml gan gyrff a chwmnïau eraill. Defnyddir unrhyw elw o wasanaethau masnachol y cwmni i gefnogi ei weithgareddau craidd.

Ble mae ar gael?

Mae‘r cwmni‘n gweithredu ar draws Cymru. Mae pencadlys y cwmni yn Aberystwyth a cheir swyddfeydd yng Nghaerdydd, Bangor, Yr Wyddgrug a Llanelli.

Alun Jones, Prif Weithredwr Grwp Menter a Busnes

 

Alun Jones, Prif Weithredwr.