Menter a Busnes



 

Prosiectau

Darganfyddwch prosiect i chi...

Chwilio

Yn gweithio...

 

Cliciwch isod i ddarllen mwy am ein prosiectau....

  • Ffatri Fenter
  • Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf
  • Llwyddo'n Lleol
  • Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr
  • Gwir Farchnata
  • Agrisgôp
  • Iaith Economi
  • Partneriaeth Rhwydwaith Arloesedd Canolbarth Cymru
  • Cydlynwyr Cyswllt Ffermio (Whole Farm Plan Coordinators)
  • Seminarau Arallgyfeirio
  • Gweithgareddau Codi Ymwybyddiaeth
  • Cyngor ar Gynllunio
  • Cywain
  • Channel Clusters
  • Gorsedd y Dreigiau
Ffatri Fenter

Ffatri Fenter

Wyt ti dros 16, yn ddi-waith neu yn fyfyriwr addysg bellach ac yn byw yn ardal Môn neu Arfon? Eisiau cefnogaeth bellach ar ddatblygu neu dreialu syniadau busnes? Os felly, dyma'r gwasanaeth i ti!

 
Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf

Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf

Fel rhan o'r rhwydwaith rydym ar gael i gynnig cyngor a chymorth i bartneriaethau, cydlynwyr ac unrhyw grwpiau perthnasol eraill ar yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, ac annog siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan yn y broses o adfywio eu cymunedau.

 
Llwyddo'n Lleol

Llwyddo'n Lleol

Mae Llwyddo'n Lleol yn rhaglen sydd am brofi bod Gwynedd yn le da i fyw ac yn le da i fentro, a rôl Menter a Busnes yn hyn o beth yw annog mentergarwch ymhlith pobl ifanc y sir a'u cynorthwyo i wireddu eu syniadau busnes neu fenter cymdeithasol.

 
Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr

Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr

Nod y Gwasanaethaeth Datblygu Cyflenwyr yw helpu busnesau i greu cysylltiadau rhyngfasnachol effeithiol ac i ddarparu cymorth ymarferol i MBaCH/SMEs i ennill cytundebau yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus.

 
Gwir Farchnata

Gwir Farchnata

Adnodd marchnata a gwerthu wedi ei deilwra?n ymarferol i gynorthwyo cynhyrchwyr bwyd i ddatblygu marchnad y DU.

 
Agrisgôp

Agrisgôp

Rhaglen ddatblygu unigryw ac arloesol yw Agrisgôp wedi'w selio ar gysyniad dysgu trwy wneud (action learning), gyda'r bwriad o gynorthwyo ffermwyr i hwyluso datblygiad eu busnesau.

 
Iaith Economi

Iaith Economi

 
Partneriaeth Rhwydwaith Arloesedd Canolbarth Cymru

Partneriaeth Rhwydwaith Arloesedd Canolbarth Cymru

Partneriaeth Rhwydwaith Arloesedd Canolbarth Cymru

 
Cydlynwyr Cyswllt Ffermio (Whole Farm Plan Coordinators)

Cydlynwyr Cyswllt Ffermio (Whole Farm Plan Coordinators)

Mae Menter a Busnes yn darparu gwasaneth Cydlynwyr i gynllun Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cynulliad Cymru ar draws Cymru gyfan. Bydd cyfanswm o 3 cydlynydd yn gweithio ym mhob un o dair rhanbarth y Cynulliad sef Caernarfon, Llandrindod a Chaerfyrddin.

 
Seminarau Arallgyfeirio

Seminarau Arallgyfeirio

Mae Menter a Busnes yn gyfrifol am ddarparu cyfres o seminarau ar hyd a lled Cymru a fydd yn rhoi gwybodaeth i fusnesau o'r diwydiant amaeth a choedwigaeth sydd a diddordeb mewn arallgyfeirio.

 
Gweithgareddau Codi Ymwybyddiaeth

Gweithgareddau Codi Ymwybyddiaeth

Cynhelir 12 o weithgareddau y flwyddyn a fydd yn codi ymwybyddiaeth o faterion strategol ymhlith y diwydiant amaeth a choedwigaeth.

 
Cyngor ar Gynllunio

Cyngor ar Gynllunio

I ddarparu a chynnal 21 o gyfarfodydd yn flynyddol trwy Gymru gyfan a fydd yn rhoi'r cyfle i fusnesau amaeth a choedwigaeth i gael cyngor ar faterion caniatâd cynllunio.

 
Cywain

Cywain

Prif nod Cywain yw helpu'r sector amaeth i ychwanegu gwerth at gynnyrch cynradd.

 
Channel Clusters

Channel Clusters

Mae prosiect Channel Clusters yn cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd a diod yn Iwerddon a Chymru i wella rheolaeth eu perthynas gyda phartneriaid sianel allweddol fel cyfanwerthwyr a siopau.

 
Gorsedd y Dreigiau

Gorsedd y Dreigiau

Os ydi chi'n ysu i ddechrau busnes eich hun, neu am ddatblygu syniad cyffrous o fewn busnes sydd wedi dechrau o fewn y pum mlynedd diwethaf ... wel, dyma'ch cyfle i ennill £5000 a chyngor busnes i droi pethau'n realiti.