Menter a Busnes



 

Prosiectau

Priosect Perthnasol:

Case Study: Dylunio CREAD Cyf

Stephen Edwards
Dylunio CREAD Cyf

6 Stad Wern Gethin, Llanfairpwll, Ynys Môn LL61 5AN
01248 713437 / 07867 976183
post@creadcyf.co.uk

Nid oes gan Stephen Edwards lawer o amser hamdden y dyddiau yma. Ac yntau eisoes yn adnabyddus fel 'Y Weiran Gaws' yn cyflwyno sioe C2 ar Radio Cymru, mae hefyd yn Uwch-swyddog Graffeg i Gyngor Ynys Môn yn ystod y dydd, a bellach wedi dechrau ei fusnes ei hun - Dylunio CREAD Cyf, gyda chefnogaeth bwrsariaeth Llwyddo'n Lleol.

Fe lansiwyd gwefan Dylunio CREAD Cyf yn swyddogol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd, a derbyniodd 38,000 o ‘hits‘ yn y mis canlynol!
Mae‘n gwmni dylunio graffeg dwyieithog sy‘n arbenigo mewn dylunio ar gyfer argraffu, gwefannau a‘r cyfryngau.

Mae‘r cwmni eisoes wedi denu nifer sylweddol o gleientiaid yn cynnwys Urdd Gobaith Cymru, S4C, Bwrdd yr Iaith a sawl busnes lleol. Logo wedi ei ddylunio gan y cwmni a ddefnyddiwyd ar gyfer cais diweddar Ynys Môn i gynnal Gemau‘r Ynysoedd 2009. Cafodd delwedd gorfforaethol Ras Ryngwladol yr Wyddfa hefyd ei dylunio gan Dylunio Cread Cyf, yn cynnwys y logo, deunydd ysgrifennu, ffotograffiaeth, posteri, dillad a hysbysebion teledu. Roedd y prosiect yma‘n agos at galon Stephen gan ei fod yn cystadlu yn y ras bob blwyddyn!

Mae llwyddiant sydyn y cwmni wedi bod yn anhygoel, ac mae o eisoes yn ennill enw da am waith arloesol o safon uchel.

Case Study: Dylunio CREAD Cyf