Menter a Busnes



 

Prosiectau

Priosect Perthnasol:

Case Study: Stiwdio Drysfa

Gronw Roberts
Stiwdio Drysfa
01248 671892 / 07891007801

Wrth wylio rhaglenni teledu, ychydig iawn ohonom ni sy‘n sylwi ar elfen sy‘n hanfodol i greu‘r awyrgylch iawn – y gerddoriaeth gefndir. Mae hi, fodd bynnag, yn holl bwysig i‘r cynhyrchiad terfynol, ac mae cyfansoddi cerddoriaeth gefndir i‘r teledu yn grefft arbennig. Mae yna alw mawr am y math yma o gyfansoddwyr, ond gyda cherddorion o‘r fath yn brin yng Nghymru mae cwmnïau cynhyrchu teledu‘n aml yn gorfod edrych tu hwnt i glawdd Offa er mwyn ateb eu hanghenion cerddorol.

Doedd dim syndod felly i gais gan Gronw Roberts o?r Felinheli am fwrsariaeth Llwyddo‘n Lleol er mwyn dechrau mewn busnes fel cyfansoddwr o‘r fath ddal sylw‘r panel yn syth.

Roedd cais Gronw‘n cynnwys cynllun busnes llawn, ynghyd â chefnogaeth llythyrau gan nifer o‘r prif gwmnïau cynhyrchu teledu Cymraeg a oedd yn tanlinellu‘r galw am y math yma o wasanaeth yng Nghymru. Roedd o‘n amlwg yn deall ei farchnad darged, ac roedd ganddo brofiad yn y maes – gan gynnwys cyfnod yn gweithio fel recordydd sain teledu.

Roedd y cyfuniad uchod yn creu cynllun busnes cryf iawn, a derbyniodd Gronw fwrsariaeth i gyfrannu tuag at feddalwedd cerddoriaeth ac offer cyfrifiadurol arbenigol. Mae o eisoes wrthi‘n cyfansoddi ar gyfer cwmnïau teledu mawr – felly gwyliwch allan am yr enw!

Case Study: Stiwdio Drysfa