Menter a Busnes



 

Prosiectau

Priosect Perthnasol:

Case Study: M.G. Williams Plant and Groundwork Maintenance

Martin Williams
M.G. Williams Plant and Groundwork Maintenance
07900 591254

Mae'r twf a welwyd yn y sector adeiladu, datblygu ac adnewyddu tai yng Ngwynedd wedi creu galw cynyddol am gontractwyr addas i gyflawni'r gwaith.

Ar ôl gweithio yn y diwydiant adeiladu ers 2000, gan ddatblygu mwy a mwy o gyfrifoldebau yn ei wahanol swyddi, y cam rhesymegol nesaf i Martin Williams o Frynrefail oedd dechrau ei fusnes ei hun. Roedd hefyd wedi gweld y twf yn y galw lleol am wasanaethau o‘r fath, ac felly‘n hyderus bod digon o farchnad leol i gefnogi‘i fenter. Roedd yr amser a dreuliodd yn y diwydiant hefyd yn golygu bod gan Martin rwydwaith sylweddol o gysylltiadau, yn cynnwys cyflenwyr, cwmnïau adeiladu a chwsmeriaid posib.

Roedd Martin wedi buddsoddi yn y cwmni, ond roedd angen cefnogaeth arno i godi‘r arian angenrheidiol i brynu gweddill yr offer oedd ei angen arno i gychwyn.

Trwy gyfarfod gyda‘i gynghorydd Sefydlu Busnesau Newydd ym Menter Môn, clywodd Martin am gynllun Llwyddo‘n Lleol, a chyflwynodd cais i‘r fwrsariaeth. Roedd ei ymroddiad i‘r fenter, a‘i ddealltwriaeth o‘r diwydiant yn argyhoeddi‘r panel bod hwn yn fusnes a oedd yn debygol iawn o lwyddo, ac felly cafodd ei gais ei gymeradwyo.

"Rydw i wedi bod yn andros o brysur ers y cychwyn cyntaf," dywedodd Martin. "Weithiau mae'n gallu bod yn anodd cadw i fyny efo'r galw! Rydw i'n gobeithio cyflogi gweithiwr arall cyn bo hir i helpu gyda'r llwyth gwaith."

Case Study: M.G. Williams Plant and Groundwork Maintenance