Os ydi chi'n ysu i ddechrau busnes eich hun, neu am ddatblygu syniad cyffrous o fewn busnes sydd wedi ei dechrau o fewn y pum mlynedd diwethaf ... wel, dyma'ch cyfle i ennill PUM MIL O BUNNOEDD a chyngor busnes i droi pethau'n realiti.
Daw‘r cyfle yma trwy gystadleuaeth Gorsedd y Dreigiau (sef panel o entrepreneurs amlwg Cymreig) sy‘n dod at ei gilydd i feirniadu cystadleuaeth unigryw i siaradwyr Cymraeg ar ffurf y gyfres deledu boblogaidd Dragon‘s Den.
Trefnir y gystadleuaeth gan Menter a Busnes ar y cyd a Llywodraeth y Cynulliad, a gyda chymorth cwmni Telesgop.
Gofynnir am gynllun busnes syml yn amlinellu‘r syniad (templed o‘r cynllun busnes yn amgaeedig) a bydd y tri gorau yn cael gwahoddiad i gyflwyno‘u syniad i Orsedd y Dreigiau yn y rownd derfynol a gynhelir amser cinio ar ddydd Mercher, 4ydd o Awst ar faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy. Cyflwynir y gwobrau gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones AC.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw‘r 2il o Orffennaf 2010, i‘w hanfon at Menter a Busnes, Uned 3 Y Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH neu‘n electroneg at eirian@menterabusnes.co.uk
Mae‘r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sydd yn siarad Cymraeg a sydd am fyw a gweithio yng Nghymru, ac i unrhyw fath o syniad busnes (dyfais, cynnyrch, gwasanaeth, ayb). Mae hawl cyflwyno mwy nag un ymgais os dymunir. Gellir cystadlu fel unigolyn, partneriaeth neu grwp o bobl a bydd yr holl wybodaeth ddarperir yn y ceisiadau yn cael ei gadw‘n hollol gyfrinachol.
Llynedd bu‘r tro cyntaf i Orsedd y Dreigiau gyfarfod a llwyddodd Guto Roberts o Benllech, Ynys Mon gipio‘r brif wobr efo‘i syniad yn ymwneud a‘r diwydiant byrddau syrffio. Erbyn hyn mae Guto wrthi‘n adeiladu cwt trwsio ar gyfer y fusnes ac mae‘r wobr wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt wrth iddo ddatblygu‘r cwmni.
Dwy arall ddaeth i frig y rhestr fer oedd Elen Wyn Lloyd o Lanfair Dyffryn Clwyd a sy‘n cyfuno ffitrwydd personol gyda‘r amgylchedd naturiol; a Shelley Rees o Abertawe a‘i syniad i sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn ardal Abertawe.
Dylai unrhyw gystadleuwyr sydd angen mwy o wybodaeth am Orsedd y Dreigiau 2010 gysylltu ag Eirian ar 01970 636280 neu e-bostio eirian@menterabusnes.co.uk
