Menter a Busnes



 

Prosiectau

Channel Clusters

Mae prosiect Channel Clusters yn cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd a diod yn Iwerddon a Chymru i wella rheolaeth eu perthynas gyda phartneriaid sianel allweddol fel cyfanwerthwyr a siopau.

Mae‘r cyngor a roddir yn cynnwys cyngor arbenigol, cyfarfodydd clwstwr gyda siopau a chyfanwerthwyr, gweithdai, teithiau astudio, gweithgareddau arddangos ac ymchwil ar y cyd.

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy‘r Rhaglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A) gydag ariannu pellach gan asiantaethau‘r wladwriaeth sy‘n cynnwys yr Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a‘r Farchnad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bord Bia ac Enterprise Ireland

Menter a Busnes a‘r Irish Exporters Association yw partneriaid y prosiect.

Am fanylion pellach ar sut y gallwn gynorthwyo‘ch busnes, cysylltwch â:
Bethan Sian Jones
Ffôn: 01691 830189
email: bethan.jones@menterabusnes.co.uk
 

Channel Clusters