Menter a Busnes



 

Prosiectau

Llwyddo'n Lleol

Fel rhan o'r rhaglen Llwyddo'n Lleol yng Ngwynedd mae Menter a Busnes yn gweithio i feithrin a datblygu ysbryd mwy mentrus ymhlith pobl ifanc yn eu cymunedau.

Ein nod yw rhoi‘r sgiliau, y wybodaeth, y profiad ymarferol a‘r hyder iddynt allu cyfrannu‘n llawn at ddatblygu eu hardal a‘r economi leol.

Gallwn ddarparu cymorth i unigolion neu grwpiau o bobl ifanc trwy ddarparu Sesiynau Sbarduno Menter, Sesiynau Datblygu Syniad Busnes, Cyngor a chefnogaeth di-duedd.

Rydym hefyd yn darparu Bwrsariaeth Llwyddo‘n Lleol, sef bwrsariaeth o hyd at £1,000 y gall unrhywun o dan 30 oed geisio amdani i gynorthwyo i wireddu eu syniad busnes neu fenter gymdeithasol.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â:

Bethan Eluned
Tel: 01248 672607
bethan.eluned@menterabusnes.co.uk

www.llwyddonlleol.com

Llwyddo'n Lleol