Menter a Busnes



 

Prosiectau

Cyngor ar Gynllunio

Nôd

I ddarparu a chynnal 21 o gyfarfodydd yn flynyddol trwy Gymru gyfan a fydd yn rhoi‘r cyfle i fusnesau amaeth a choedwigaeth i gael cyngor ar faterion caniatâd cynllunio.

Pam mae'n bodoli?

Datblygwyd y cynllun fel rhan o raglen Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth am bynciau strategol i‘r diwydiant amaeth a choedwigaeth.

Sut mae'n gweithio?

Mae Menter a Busnes yn cydweithio gyda chwmni Asbri Planning – arbenigwyr yn y maes cynllunio er mwyn darparu gwybodaeth sy‘n berthnasol i bob ardal o Gymru. Cyn gynted ag y bydd gyda ni 7 person mewn un ardal sydd â diddordeb yn y gwasanaeth hwn, byddwn yn trefnu syrjeri mewn man canolog. Yna bydd pob person yn cael amser penodol pryd y bydd cyfle iddynt i drafod eu hanghenion cynllunio mewn awyrgylch gyfrinachol. Mae‘r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim. Y cyntaf i‘r felin gaiff falu felly cysylltwch ar unwaith!