Beth yw'r Seminarau Arallgyfeirio?
Mae Menter a Busnes yn gyfrifol am ddarparu cyfres o seminarau ar hyd a lled Cymru a fydd yn rhoi gwybodaeth i fusnesau o‘r diwydiant amaeth a choedwigaeth sydd a diddordeb mewn arallgyfeirio.
Pam mae'n bodoli?
Datblygwyd y cynllun fel rhan o raglen Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth am yr elfennau angenrheidiol sydd angen bod yn ymwybodol ohonynt wrth ystyried arallgyfeirio.
Sut mae'n gweithio?
Cynhelir y seminarau ar ffermydd sydd wedi arallgyferio a bydd cyfle i gael taith o amgylch y busnes yn ystod y digwyddiad. Bydd cymorth a gwybodaeth ar gael o ddatblygu‘r syniad cychwynnol, i ymchwil marchnad, y broses gynllunio, datblygu‘r cynllun busnes, marchnata, i benodi staff a rheoli‘r busnes. Bydd cyfle hefyd i holi cwestiynau ac i drafod ymhellach.
Ble mae ar gael?
Bydd 9 seminar yn cael eu cynnal bob blwyddyn a bydd nifer y mynychwyr yn cael eu cyfyngu i 30 i bob seminar.
