Troi syniadau‘n ffaith
Mae Trosi yn cynnig gwasanaeth heb ei ail sydd wedi'i dargedu at y busnesau hynny sydd eisoes wedi'i sefydlu a'r entrepreneuriaid hynny sydd ar gychwyn - drwy ddatblygu cynnyrch newydd.
Bydd Trosi yn cynnig dull proactif o weithio gyda‘r sector breifat i:
- adnabod,
- datblygu,
- gweithredu
nifer o gynhyrchion neu wasanaethau newydd. Fe ystyrir hefyd sut mae‘r iaith / diwylliant Cymraeg yn medru bod o fantais economaidd ychwanegol.
Bydd Trosi yn hwyluso datblygiad a gweithrediad cynnyrch newydd ar dair lefel:
- Ar sail un i un gyda busnes sydd â‘i syniad cyffrous ei hun
- Trwy ddwyn nifer o fusnesau bach at ei gilydd gyda‘r potensial i ddatblygu cynnyrch newydd fel grwp neu gan unigolion o fewn y grwp. Caiff hyn ei wireddu drwy gynnal nifer o weithdai creadigol eu naws yn defnyddio technegau ymarferol a llwyddiannus.
- Datblygu, gyda‘r sector preifat (unigolion neu grwpiau), unrhyw gynnyrch / gwasanaeth newydd arall na fyddai‘n digwydd heb gefnogaeth Trosi
Bydd Trosi yn canolbwyntio ar gynorthwyo busnesau bychain drwy hwyluso:
- gwybodaeth
- cyngor a chefnogaeth
- rhwydweithio
- gweithredu
Bydd Trosi, trwy ymwneud â busnesau bychain, yn hyrwyddo:
- tarddiad a datblygiad syniadau
- arloesedd
- ymddygiad entrepreneuraidd.
Gweithredir y cynllun hwn drwy ardal Amcan 1
"Mae pawb yn medru bod yn greadigol ac yn medru cael syniadau newydd o dan yr amgylchiadau cywir" meddai Alun Jones, Prif Weithredwr, Menter a Busnes. "Pan mae pethau sy'n bodoli yn barod yn cael eu cyd-gysylltu mewn ffordd newydd sy'n creu syniadau busnes newydd, a bod y syniadau hynny yn cael eu Trosi fewn i weithredu dyna yn y bon yw gwir arloesedd"
Os oes gennych ddiddordeb, ac am fwy o fanylion parthed y prosiect a sut y gallai helpu eich busnes chi, cysylltwch â:
Nia Môn
Siambrau Tudur,
Stryd Caer,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 1EG
Ffôn: 01352 707835
nia.mon@menterabusnes.co.uk
